Mae noson allan efo’r hogiau yn dda i iechyd meddwl dynion, yn ôl ymchwil o’r Almaen.
Yn ôl y gwyddonwyr, mae dynion yn llai tebygol o deimlo dan bwysau mewn grŵp gyda’i gilydd nag y maen nhw gyda’u partner neu aelodau eraill o’r teulu.
Ond efallai na fydd rhai merched yn synnu o ddarganfod bod y canfyddiad am ymddygiad y gwrywod wedi dod i’r amlwg ar ôl astudio grŵp o fwncïod.
Astudio’r mwncïod
Roedd y gwyddonwyr o Brifysgol Gottingen yn Yr Almaen wedi bod yn astudio’r macaco Barbary, math o fwnci sydd yn ymddwyn yn debyg iawn i fodau dynol mewn grwpiau cymdeithasol.
Yn ôl lefelau hormon y mwncïod, roedden nhw’n ymlacio’n llawer gwell pan oedden nhw mewn grŵp o wrywod eraill yn hytrach na chyda’u partner a’r teulu.
Roedden nhw hefyd yn gofalu am ei gilydd, yn ôl y gwyddonwyr, gan greu perthnasau agos â rhai o’r mwncïod eraill.
Ond fe rybuddiodd Christopher Young, un o’r gwyddonwyr oedd yn rhan o’r ymchwil: “Os yw’r mwncïod gwrywaidd yn byw mewn grwpiau gyda sawl gwryw, maen nhw fel arfer yn ymladd yn ffyrnig i gael at y benywod”.