Mae rhywrai wedi ymosod ar wefan HSBC heddiw, ond mae’r banc wedi mynnu nad yw wedi effeithio ar ddiogelwch cwsmeriaid.
Dywedodd y banc bod ymdrech ddichellgar wedi bod i geisio rhwystro cwsmeriaid rhag gallu defnyddio’r tudalennau bancio personol, ond eu bod wedi llwyddo i’w atal.
“Rydyn ni’n gweithio’n galed i adfer gwasanaethau, mae pethau nawr yn gweithio fel yr arfer,” meddai llefarydd ar ran HSBC.
“Rydyn ni’n ymddiheuro am unrhyw anhawster allai hyn fod wedi’i greu.”
Cyflog yn dod i mewn
Yn gynharach yn y mis fe fu’n rhaid i HSBC ymddiheuro wrth gwsmeriaid ar ôl trafferthion technegol ar eu gwefan deuddydd yn olynol.
Ond fe ddywedodd y banc mai mater technegol yn ymwneud â’r system, ac nid ymosodiad seiber, oedd yn gyfrifol ar y pryd.
Fe ddaeth y trafferthion diweddaraf ar adeg anghyfleus i gwsmeriaid, gyda llawer ohonyn nhw yn derbyn eu cyflog heddiw ac eraill yn paratoi i gwblhau hunanasesiadau treth.