Mae ymgyrchwyr wedi dweud y byddan nhw’n brwydro yn erbyn y penderfyniad “gwarthus” i gadw cofeb o goloneiddiwr Prydeinig “hiliol” ym Mhrifysgol Rhydychen.
Dywedodd corff llywodraethu Coleg Oriel ei fod wedi penderfynu ar ôl “ystyried yn ofalus” i gadw’r gofeb o Cecil Rhodes er gwaethaf honiadau ei fod yn symbol o hiliaeth a gorthrwm.
Yn ôl y coleg, roedd wedi derbyn “swm enfawr o fewnbwn” pan ymgynghorodd ar gadw’r gofeb, gan gynnwys deiseb gan y grŵp Rhodes Must Fall, a gafodd 2,000 o lofnodion.
Roedd The Daily Telegraph wedi adrodd bod noddwyr yn bygwth peidio â chyfrannu £100m I’r coleg, oni bai bod y gofeb yn mynd.
“Mae’r penderfyniad diweddar hwn yn warthus, anonest ac yn sinigaidd,” meddai’r grŵp Rhodes Must Fall mewn datganiad.
“Dydy hyn ddim ar ben. Byddwn yn dyblu ein hymdrechion ac yn cyfarfod dros y penwythnos i drafod ein camau nesaf.”
“Bywydau pobol ddu yn rhad yn Rhydychen”
Dywedodd Ntokozo Qwabe, Ysgolor Rhodes sydd wedi ymgyrchu dros dynnu’r gofeb, fod y penderfyniad yn dangos bod “bywydau pobol ddu yn rhad yn Rhydychen”.
Cyfaddefodd y coleg fod y ddadl wedi taflu goleuni ar y nifer isel o fyfyrwyr du ac o gefndiroedd lleiafrif ethnig sydd yno, a’r mater o wahaniaethu ar y campws.
Yn ôl llefarydd ar ran y coleg, roedd nifer “aruthrol” o bobol wedi cefnogi cadw’r gofeb, a hynny oherwydd “amrywiaeth o resymau”.
“Mae corff llywodraethu’r coleg wedi penderfynu y dylai’r gofeb aros yn ei le a bydd y coleg yn ceisio darparu cyd-destun hanesyddol eglur i egluro pam ei fod yno.”
Cecil Rhodes
Roedd Cecil Rhodes yn Brif Weinidog dros Wladfa Cape yr Ymerodraeth Brydeinig, yn cynnwys De Affrica, yn y 1890au cynnar, ac mae wedi cael ei gysylltu â pholisïau apartheid.
Roedd yn fyfyriwr yn Rhydychen ac yn aelod o Goleg Oriel yn y 1870au. Gadawodd arian i’r coleg ar ôl iddo farw yn 1902.
Mae ysgoloriaethau yn ei enw wedi cael eu gwobrwyo i dros 8,000 o fyfyrwyr tramor hyd yn hyn.
Mae’r penderfyniad yn dod ar ôl i Brifysgol Cape Town benderfynu tynnu cofeb debyg ohono’r llynedd, yn dilyn protest gan fyfyrwyr.