Mae Gwasg Y Lolfa wedi mynnu nad yw’r sticeri Draig Goch maen nhw wedi eu creu i’w gosod ar drwyddedau gyrru yn torri rheolau’r DVLA.

Cafodd y sticeri eu cynhyrchu er mwyn i unrhyw un oedd yn derbyn trwydded yrru newydd â baner Jac yr Undeb arni osod un Cymru yn ei le.

Fe rybuddiodd yr asiantaeth drwyddedu fodd bynnag y gallai gyrwyr wynebu dirwy o £20 os oedden nhw’n “anharddu” eu trwydded mewn unrhyw fodd.

Ond fe ddywedodd y wasg lyfrau y byddan nhw’n dal i werthu’r pecynnau sticeri am £2 yr un ac nad oedd yn rhaid i yrwyr boeni.

‘Teimlo’n angerddol’

“Nid yw ymateb yr ATGCh yn dal dŵr,” meddai Pennaeth Marchnata Y Lolfa, Fflur Arwel.

“Nid yw’r sticeri yn newid neu yn amharu ar unrhyw wybodaeth ar y drwydded – dim ond gorchuddio Jac yr Undeb. Mae ffyrdd o brofi os yw’r drwydded yn un ddilys dal yn bosibl hyd yn oed gyda’r sticeri.

“Mae’r sticeri yn ysgafn ac ni wnawn nhw ddifrodi neu anharddu’r drwydded mewn unrhyw ffordd.

“Rydym wedi derbyn ymateb cadarnhaol iawn i’n hymgyrch ers ei lansio. Yn amlwg mae pobl yn teimlo’n angerddol iawn am hyn. Nid ydyn nhw’n teimlo fod fflag yr Undeb yn eu cynrychioli nhw nac ychwaith yn teimlo bod eu cenedligrwydd Cymreig yn cael ei barchu.

“Am hyn, byddwn yn parhau i werthu a chynhyrchu sticeri’r Ddraig Goch a rhoi’r cyfle i bobl ddangos eu bod nhw’n falch o fod yn Gymry.”