Mae tywysoges Sbaen wedi colli brwydr gyfreithiol i osgoi mynd i lys barn ac wynebu cyhuddiadau o dwyll treth.

Y disgwyl nawr yw y bydd y Dywysoges Cristina roi tystiolaeth fis nesaf mewn achos llygredd, a fydd hefyd yn cynnwys ei gŵr, Inaki Urdangarin a 16 o ddiffynyddion eraill.

Roedd cyfreithwyr chwaer Brenin Felipe VI, erlynydd a thwrnai oedd yn cynrychioli awdurdodau treth Sbaen, i gyd wedi dweud y byddai’r cyhuddiadau yn erbyn Cristina yn cael eu rhoi o’r neilltu gan fod swyddogion y llywodraeth wedi cytuno nad oedd wedi cyflawni unrhyw droseddau.

Ond roedd y panel o farnwyr yn anghytuno, yn ôl datganiad a gafodd ei gyhoeddi gan y llys.

Hyd at wyth mlynedd yn y carchar

Mae’r dywysoges 50 oed bellach yn wynebu dau achos o dwyll treth ac fe allai dreulio hyd at wyth mlynedd yn y carchar am fethu â datgan trethi ar gostau personol.

Bydd yr achos llys yn ystyried a wnaeth Cristina ac Inaki Urdangarian ddefnyddio eu cwmni eiddo i ariannu gwyliau moethus, cynnal partïon yn eu plasty yn Barcelona a thalu am wersi dawnsio salsa.

Dyma’r tro cyntaf i aelod o deulu brenhinol Sbaen wynebu cyhuddiadau troseddol ers i’r frenhiniaeth gael ei ail-sefydlu yn 1975.

Mae Inaki Urdangarin ac eraill yn wynebu cyhuddiadau o embeslo hyd at 6.2m ewro (£.4.7m).

Roedd Cristina yn gwadu ei bod yn gwybod unrhyw beth am weithgareddau ei gŵr pan ymddangosodd yn y llys yn 2014.

Cythruddo pobol Sbaen

Roedd manylion am fywyd brenhinol y cwpl a ddaeth i’r amlwg mewn ymchwiliad cyn yr achos rhwng 2011 a 2014 wedi cythruddo’r boblogaeth yn Sbaen, wrth i’r wlad agosáu at argyfwng economaidd.