Mae storm Gertrude wedi cyrraedd Cymru, gyda glaw trwm a gwyntoedd difrifol o hyd at 80 milltir yr awr yn achosi problemau i deithwyr.
Yn ôl rhagolygon y Swyddfa Dywydd, sydd wedi cyhoeddi rhybudd coch o wyntoedd cryfion o hyd at 100 milltir yr awr, bydd y tywydd garw yn debygol o bara tan chwech o’r gloch heno.
Oherwydd y gwyntoedd, mae disgwyl i arfordir Cymru fod yn arw iawn dros yr oriau nesaf.
Problemau ar y ffyrdd
Fe gaewyd yr M48 ar y Bont Hafren ar ôl i lori droi drosodd ar yr A466 ger Cas-Gwent, gan achosi ciwiau hir ar yr M4 gerllaw.
Roedd oedi ar rai gwasanaethau Trenau Arriva Cymru hefyd, gyda chyfyngiadau cyflymder ar deithiau rhwng Abergele, Pensarn a Phenmaenmawr yn y gogledd.
Yn ôl y cwmni trenau, mae’r cyfyngiadau ar y teithiau hyn wedi dod i ben am y tro.
Llifogydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi wyth rhybudd ‘byddwch yn barod’ am lifogydd a hynny yn ne Sir Benfro, arfordir Ceredigion, Bro Ddyfi, dalgylch Glaslyn a Dwyryd, Llanrwst, Llangollen, Corwen ac yn nalgylch Fyrnwy.