Aled Morgan Hughes
Aled Morgan Hughes sydd yn edrych ar un pwnc all brofi’n bwysig wrth i Etholiad Cynulliad fis Mai agosáu …
I’r rhai ohonoch a fethodd y ffrwydrad o gyffro ar y trydarfyd yn gynharach yn y wythnos, mae’r chwiban etholiadol bellach wedi’i chwythu, ac mae llai na 100 diwrnod tan fydd etholwyr Cymru yn mentro i’r gorsafoedd pleidleisio i ddewis ein llywodraeth nesaf.
Mae’r pleidiau bellach mewn ffair o weithgarwch, gan gorddi rhesi di-ben-draw o bolisïau a danteithion i geisio ennyn cefnogaeth yr etholwyr Cymreig.
Fel pob etholiad datganoledig, bydd disgwyl i’r meysydd addysg ac iechyd eto brofi’n ganolog i ddiddordebau’r cyhoedd, tra’n ehangach gall cyflwr yr economi neu orwelion ansicr refferendwm Ewrop hefyd ddatblygu’n bwyntiau trafod o bwys, boed hynny ar garreg y drws neu yn y naratif cyfryngol, dros y misoedd nesaf.
Tu hwnt i’r disgwyliedig, ceir un pwnc a all brofi’n gymharol bwysig yn yr ymgyrch, sef y cyhuddiad bod datganoli wedi arwain at ddatblygiad ‘Sefydliad Bae Caerdydd’- rhyw ddosbarth llywodraethol elitaidd anghysbell, sydd ond â diddordeb mewn cornel fechan o dde ddwyrain Cymru.
Bybl y Bae?
Yn fwyfwy dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld cyhuddiadau o’r fath yn codi stêm, gan ymddangos yn amlach yn y newyddion.
Ceir enghraifft yn ystod y llifogydd diweddar yn y gogledd orllewin, gyda chyhuddiadau o ddiffyg gwariant a buddsoddiad llywodraethol yn yr ardal, tra ym mhen arall Cymru, yn iard gefn y Bae, arweiniodd penderfyniad arfaethedig y llywodraeth i fuddsoddi’n helaeth mewn rhan fechan o’r M4 at gryn dipyn o stŵr.
Nid gwariant Llywodraeth Llafur yn unig a fwyda’r fath gyhuddiadau chwaith – beirniadwyd y Cynulliad yn ddiweddar gan rai wrth i’r Aelodau dderbyn codiad, gan atgyfnerthu i rai rhyw ddelwedd o “self-preservation society” bybl y Bae.
Dydi cyhuddiadau o’r fath ddim yn newydd – yn refferendwm 1997, fel 1979, bu’r fath godi bwganod o ddatblygiad posib dosbarth gwleidyddol elitaidd brofi’n ganolog i’r ymgyrchoedd gwrth-ddatganoli.
Er i refferendwm 2011 atgyfnerthu’r gefnogaeth i ddatganoli yng Nghymru, mae’r fath gyhuddiad yn mynd yn syth i gnewyllyn y setliad datganoli Cymreig; a fu i ddatganoli – y broses o symud grym llywodraethol yn agosach at y bobl yr effeithiai – ond greu haen wleidyddol ddidoledig arall?
UKIP yn ymosod
Gellir awgrymu bod twf UKIP a’u hymgyrch i ennill seddi yn y Cynulliad am y tro cyntaf wedi chwarae rôl ddylanwadol wrth sbarduno’r ddadl hon.
Mewn etholiadau Ewrop a San Steffan, gweler y blaid yn ymfalchïo wrth chwarae’r cerdyn “anti-establishment” – tacteg yn ôl pob golwg y mae’r blaid am ei atseinio eto yma yng Nghymru dros y misoedd nesaf, gan greu’r ddelwedd o herio ‘sefydliad’ Bae Caerdydd.
Gyda disgwyl i’r blaid ennill cryn gyhoeddusrwydd wrth i fis Mai agosáu, bydd cwestiynu ‘sefydliad’ Bae Caerdydd, ac i ba raddau mae datganoli wedi bod o fudd i Gymru gyfan, yn debygol o fod yn flaenllaw ar yr agenda cyfryngol.
Gydag UKIP yn ymosod, mae’n debyg mai’r blaid Lafur, fel y blaid lywodraethol ers 1999, fydd yn y sefyllfa anoddaf i amddiffyn y fath gyhuddiadau o ddatblygiad “Taffia” elitaidd y Bae.
Mewn sawl achos, fel nodais yn gynt, dyw nifer o benderfyniadau ac ambell i sgandal ariannol y blaid lywodraethol dim ond wedi cynyddu’r ddelwedd o ddosbarth gwleidyddol anghysbell ym meddwl y cyhoedd.
Polisïau’r gwrthbleidiau
Nid UKIP yw’r unig blaid wleidyddol fydd yn ceisio elwa drwy’r fath gyhuddiadau chwaith – yn fwyfwy gweler amryw o bolisïau gwrthbleidiau’r Bae hefyd yn dod i atseinio’r dôn.
Yn achos y Ceidwadwyr, gwelir hyn mewn addewid i benodi Gweinidogion ar gyfer Gogledd Cymru a’r Canolbarth a’r Gorllewin pe baent yn dod yn blaid lywodraethol.
“I want to be First Minister for the whole of Wales, not just the Cardiff Bay bubble” medd eu harweinydd, Andrew RT Davies.
Gweler Plaid Cymru hefyd yn cyhoeddi polisïau i geisio distyllu’r ddelwedd o fybl y Bae. Ceir enghraifft o hyn mewn addewid am ddeddf i ariannu Cymru gyfan yn deg, a chyhoeddiad diweddar Leanne Wood bod y blaid yn addo bod y llywodraeth “fwyaf hygyrch” erioed, gan gynnal deg cyfarfod Cabinet y flwyddyn mewn gwahanol leoliadau ar draws Cymru.
O ystyried y naratif sydd wedi gyrru twf UKIP ac ansicrwydd rhai o hyd am werth datganoli, fydd hi ddim yn syndod gweld y frwydr yn erbyn ‘sefydliad Bae Caerdydd’, a’r buddion i Gymru y tu hwnt i’r de ddwyrain, yn datblygu’n un o brif nodweddion yr ymgyrch etholiadol dros y misoedd nesaf.
Mae Aled Morgan Hughes yn fyfyriwr PhD dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.