Donald Trump
Hefin Jones sydd yn cymryd ei gip unigryw ar ddigwyddiadau’r wythnos a fu …
Gwleidyddion plentynnaidd
Wrth i Carwyn Jones anwybyddu’r Llywydd nes iddi droi ei feicroffon i ffwrdd, problem wahanol welwyd yn senedd Sweden wrth i’r orsaf deledu gymysgu sianeli a rhoi isdeitlau rhaglenni plant ar ddarllediad byw y gwleidyddion. “Dwi am adeiladu’r castell tywod gorau yn y bydysawd!” mynnodd Jan Björklund, y Gweinidog Addysg, wrth i’r Gweinidog Amgylchedd Åsa Romsom ymateb gyda “mae gen i ddau bâr o esgidiau, un pâr melyn ac un pâr coch”. “Mae’n biti garw nad oes trên sy’n gallu trafeilio o dan ddŵr” pendronodd y Prif Weinidog Stefan Lövfen.
Ffafr Duw
I lenwi’r gweiglefydd yn ei ddealltwriaeth, ei arbenigedd a’i gymeriad, nid syndod oedd gweld Donald Trump yn cael neb llai na Sarah Palin i weiddi ei rinweddau. Mae hi yn llygadu ailgychwyn ei gyrfa wleidyddol dan ei lywodraeth arfaethedig. Ond i ba swydd? “I think a lot about the Department of Energy, because energy is my baby”, pwysodd a mesurodd. “Oil, gas and minerals, those things that God has dumped on this part of the earth for mankind’s use instead of us relying on unfriendly foreign nations.”
O enau plant
Ond beth i’w wneud â’r gwledydd tramor anghyfeillgar i’r ddynol ryw? Roedd gan yr USA Freedom Kids, grŵp o blant 8 i 11 oed, yr ateb yn rali Donald wrth ganu’r geiriau: “Enemies of freedom face the music. Come on boys, take them down. President Donald Trump knows how to make America great. Deal from strength or get crushed every time.” Oes posib mai cynllwyn yw hyn oll i wneud i’r seicopath go-iawn, Hillary Clinton, ymddangos yn gall yn rownd derfynol Democratiaeth?
O enau plant 2
Ceisio nodi ei fod yn byw mewn tŷ teras oedd bachgen deg oed o Accrington wrth wneud ei waith ysgol, a pha ryfedd iddo gymysgu’r gair ‘terraced’ am un o eiriau mwyaf poblogaidd y ganrif hon, ‘terrorist’. Mae bellach yn cael trafferth cysgu a bwyta wedi i’r heddlu ddod i’r ysgol i’w holi ac archwilio cyfrifiadur y teulu yn ei gartref. Ond llongyfarchiadau i’r athro a’i reportiodd ac i’r canllawiau Prevent, eto, am gadw Prydain mor saff.
Ymwelwyr yn y dref
A sôn am gadw Prydain yn saff, beth gebyst mae Llangefni wedi ei wneud i haeddu’r fath sylw? Wedi i Britain First benderfynu ar y dref ar gyfer eu rali, mae UKIP yn agor swyddfa yno o hyn tan yr etholiad.
Dim dylanwad
Sioc, cerydd a dirwy o £30,000 i The Daily Telegraph am yrru cannoedd i filoedd o e-byst yn awgrymu wrth eu tanysgrifwyr y dylen nhw bleidleisio i’r Ceidwadwyr ar ddiwrnod yr etholiad cyffredinol. Nid yw papurau newydd i fod i weiddi mor blaen, gwelwch, wrth ddarparu eu straeon diduedd sy’n llawer rhy amwys i bwyntio eu darllenwyr tua’r llwybr cywir.
Polisi rybish
£25 fydd bin gwyrdd newydd yn ei gostio i un trigolyn o Canton wedi i rywrai ei ddwyn, sy’n ymddangos yn ffordd eithaf difyr gan Gyngor Caerdydd o annog dwyn biniau pobl eraill os mai diflannu wna’r gasgen gylchdroi.
Chwerthin drwy’r tristwch
Does neb yn byw am byth, oni bai am yr elît sy’n gwybod yn union pa gemegau i’w cymysgu â’r gwaed madfall. Ond mae’r BBC yn cynllunio am y diwrnod ofnadwy pan, ac os, y bydd Ein Mawrhydi Elizabeth yr Ail yn ymadael â’r 6,600 miliwn acer o’i heiddo sydd yn y byd. I barchu ac adlewyrchu’r gwewyr a’r galar ni fydd unrhyw gomedi i’w weld ar ei sianeli am 12 diwrnod yn dilyn y trychineb.
Bomio’r llefydd cywir
Wedi llwyddo i werthu £1biliwn o arfau mewn tri mis i Saudi Arabia, a chynnydd o 11,000% mewn gwerthiant taflegrau, daeth i’r fei fod llwyth o ‘ymgynghorwyr’ milwrol yn y wlad yn ‘cynghori’ ar dargedau i’w hitio ar Yemen. Sicrhaodd David Cameron mai yno maen nhw i wneud yn saff fod y targedau cywir yn cael eu taro. Lwcus, neu mi fyddai llawer mwy na’r 3,000 ysgol maen nhw eisoes wedi eu chwalu wedi ei chael hi.
Dysgu gwers i’r dihiryn
Er, beth yw hynny o’i gymharu â stori fwyaf yr wythnos, sef trosedd ‘tebygol’ Putin o fod â rhan yn llofruddiaeth yr ysbïwr Alexander Litvinenko – ddeng mlynedd yn ôl – fel dywed yr ymchwiliad hynod gyfrinachol a hynod bendant. Arweiniodd y Torïaid a’r doethaf o fainc blaen Llafur megis Andy Burnham i alw am bob math o fygythiadau, megis atal Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia. Gan mai nhw sydd â’r awdurdod i wneud hynny.
Record Byd y Bale
Rycsiwns aeddfed ym mhrifddinas Sbaen wrth i rywrai direidus ddatgelu fod trosglwyddiad Gareth Bale i Real Madrid £7miliwn yn ddrytach na’r ffigwr honnwyd, gyda’r cytundeb yn mynnu fod Tottenham yn cau eu cegau am byth ar y mater. A’r rheswm? Roedd Real Madrid yn gwybod y byddai’r ffaith fod Bale wedi costio mwy yn pwdu’r bonheddwr Cristiano Ronaldo yn lân.