God Save The Queen?
Hefin Jones sydd yn cymryd ei gip unigryw arferol ar ddigwyddiadau’r wythnos a fu …
I ffwrdd â’i ben
Cythrwfl a theyrnfradwriaeth yn San Steffan wrth i ‘God Save the Queen’ wynebu dyfodol ansicr fel anthem Lloegr ar y meysydd chwaraeon. Roedd Toby Perkins yn gweld y gemau a ddaw rhwng Cymru a Lloegr yn ddigwyddiad lle bydd y ffaith fod anthemau Lloegr a Phrydain yr un diwn yn embaras. ‘The Queen is said not to favour the move’ dagreuodd y Daily Express, cyn dyfynnu ei chyfnither, Yr Anrhydeddus Margaret Rhodes, fod yr holl beth yn ‘rude‘.
Pleser o’r mwyaf
Daeth y Ceidwadwr Jacob Rees-Mogg hefyd i’r gad yn gadarn i rybuddio fod anthemau annibynnol yn lleihau “that sense of devotion to our Sovereign that we ought to have”, cyn adio yn huawdl ac yn hollol ansynhwyrol: “What greater pleasure can there be for a trueborn English man or woman to listen to our own national anthem, a national anthem for our whole country, for our whole UK of which England is but a part”. Er, gobeithiodd Eddie Bone o England Is My Heart y byddai pawb, wedi eu hanthemau unigol, yn ymuno i ganu ‘God Save The Queen’. Pob lwc gyda hynny.
Nid diwedd y gân yw’r geiniog
Yn ymateb i’r newyddion fod £2m yn llai ar gyfer hybu’r iaith, Karl Marxiodd Carwyn fod rhaid “osgoi meddwl mai dim ond arian sy’n gallu gwneud gwahaniaeth”. Wel, eitha’ reit, ac fe gawn edrych ‘mlaen cyn yr etholiad i frawddegau cyffelyb o’i fantra newydd fel ‘Beth yw pwdryn ond cyfalafwr gwallgof, a beth yw cyfalafwr ond pwdryn rhesymol?’
Dim byd i’w weld…
Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig yw Lee Waters. Bydd Lee Waters yn ymgeisydd i’r Blaid Lafur yn etholiadau mis Mai. Y Sefydliad Materion Cymreig drefnodd y ddadl rhwng Carwyn Jones a Nigel Farage bedwar mis cyn yr etholiad. Ac nid pwrpas y ddadl oedd plannu’r canfyddiad ym mhen neb mai dwy blaid fydd yn berthnasol.
Farage heb ffiniau
Mor daclus oedd llinell agoriadol stori golwg360 am sylwadau pellach gan Farage, ei waethygu fyddai ei newid:
‘Mae cwestiynau ynglŷn â pham nad yw ymgeiswyr Ukip yng Nghymru yn dod o Gymru yn codi “tôn annifyr cenedlaetholgar”, yn ôl arweinydd y blaid.’
Glaswellt gwyrdd gartref
‘Nawn ni FYTH FYTH adeiladu ar diroedd gwyrdd Caerdydd’ bloeddiodd Llafur cyn bob etholiad yno ers blynyddoedd. Er, dim ond 13,000 o’r 30,000 o dai newydd fydd ar yr union diroedd gwyrdd hynny, felly plentynnaidd fyddai pwyntio bys. Ond awgrymwyd fod y celwydd golau’n dod o’r ffordd arall rywsut. ‘The Plaid propaganda’ ebe WalesOnline yn eu stori am y ffrae rhwng grŵp Plaid Cymru Caerdydd a Carwyn Jones.
Gwersi hanes y Mail
Sioc, dicter a thrallod yn Lloegr wrth i linell yn y sylabws TGAU hanes newydd wylltio’r gwybodusion. Fel adroddodd y Mail on Sunday, mae’r ‘Marcswyr’ sy’n gyfrifol am ddyfodol y plant yn nodi fod Affricanwyr yma cyn y Saeson, 500 ohonynt yma fel catrawd byddin Rufeinig. Ac er bod y ffaith yna ar flaen eu bysedd, maent yn llwyddo i benawdu’r stori’n anghywir.
‘GCSE pupils to be taught that the nation’s earliest inhabitants were Africans who were in Britain before the English.’ Na, does neb yn dweud mai nhw oedd y cyntaf, Mail on Sunday…
Sticio at y stori
…’It has outraged some of Britain’s eminent thinkers’ cynhyrfont, wrth chwilio’n ddyfal am y fath bobl. Fel Alan Smithers o Brifysgol Buckingham. ‘It is dangerous because a cohesive society depends on an authentic shared view of history’ academyddodd. Cawsant Chris McGovern o’r Campaign for Real Education i esbonio ‘The country is being sold down the river by the politically correct brigade. It’s pro-immigration propaganda.’ Ac ebe Sir Roy Strong, awdur The Story of Britain, ‘This stands history on its head, projecting back on to the past something that isn’t true,’ yn amlwg dan yr argraff fod yr Eingl a’r Sacson yma cyn goresgyniad y Rhufeiniaid.
Pen-blwydd hapus
Dechrau addawol i Arlene Foster fel arweinydd newydd y DUP, ac felly arweinydd newydd Cynulliad Gogledd Iwerddon, wrth iddi bendroni ar ganmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn arweiniodd at annibyniaeth Iwerddon. “A very violent attack on the United Kingdom” oedd ei dadansoddiad. “The rebellion which took place 100 years ago this Easter was to directly attack the state to which I owe my allegiance”, cloriannodd yn bwyllog, ddiwrnodau wedi iddi ddweud y byddai’n gwasanaethu pob un o gymunedau’r chwe sir sydd oll, heb os bellach, yn edrych ymlaen at y cydweithredu sydd i ddod.
Newid seddi
A fedr unrhyw un esbonio pam fod y Torïaid yn bloeddio wrth i’r English Votes For English Laws ddigwydd am y tro cyntaf, tra bod yr SNP yn cwyno ei fod yn gwthio’r Alban ymhellach oddi wrth y Deyrnas Unedig? Maent yn gywir wrth gwrs, ond onid y ffordd arall rownd ddylai hyn fod? Oni bai fod yr SNP yn chwarae wic wew ac yn gwneud ffyliaid o’u gwrthwynebwyr. Er, roedd y Ceidwadwyr hefyd yn dathlu nad oedd landlordiaid am dderbyn ryw hen lol am safonau annerbyniol eu tai.
Cadw Tour-w
Llawen oedd Yaya Toure o Manchester City i ddod yn ail yng nghystadleuaeth pêl-droediwr Affricanaidd y flwyddyn. “I’m quite disappointed, but I don’t want to complain too much,” dechreuodd yn ddedwydd. “It brings shame to Africa,” dathlodd yn heulog. “It is indecent,” gorffennodd, yn wên o glust i glust. Yaya oedd wedi ei goroni fel yr enillydd ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf.