Lucy a Gabriel Owen (Llun:BBC)
Mae’r cyflwynwyr teledu a’r cwpwl priod Lucy a Rhodri Owen wedi ffilmio rhaglen yn trafod a ddylai eu mab Gabriel gael addysg Gymraeg neu beidio.
Ar hyn o bryd mae’r bachgen saith oed yn mynychu ysgol gynradd Gymraeg, ond mae gan ei fam “deimlad greddfol” y dylid ei anfon i ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg.
Mewn rhaglen arbennig i’w dangos wythnos i nos Lun, bydd Lucy Owen yn trafod ei thaith “anodd” i ddod o hyd i’r addysg gywir i’w mab.
Yn Welsh or English? Lucy Owen’s Big School Dilemma, mae cyflwynydd Wales Today yn mynd ar daith bersonol i geisio darganfod pa addysg sydd orau i’w mab.
“Pan oeddwn yn tyfu i fyny, es i ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ac ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg – doedd neb oeddwn i’n eu nabod yn siarad Cymraeg,” meddai Lucy Owen ar y rhaglen.
“Fy nheimlad greddfol yw iddo barhau â’i addysg yn yr un iaith a chefais i fy addysg.”
“Devastated” pe bai’n cael addysg Saesneg
Ond ar y llaw arall, mae ei gŵr Rhodri Owen sy’n cyflwyno rhaglen Heno ar S4C, am weld y mab yn mynd i ysgol uwchradd Gymraeg.
Ar y rhaglen mae’n cyfaddef y byddai’n “devastated” pe bai ei fab yn mynd i ysgol cyfrwng Saesneg.
“Mae’n fab i mi, mae’n Gymro, dw i’n Gymro, mae fy mam-gu a’m tad-cu yn Gymry, r’yn ni gyd yn siarad Cymraeg, dyna beth rydyn ni wedi’i wneud.”
“A fydd ei Saesneg yn dioddef?”
Yn y rhaglen, cawn glywed am bryderon Lucy Owen a rhieni eraill am addysg Gymraeg, o ran helpu â gwaith cartref heb ddeall yr iaith a’r gallu i roi eu cefnogaeth lawn i’w plant yn ystod eu haddysg, os nad ydyn nhw’n gallu siarad iaith yr ysgol.
“A fyddai dewis ysgol Gymraeg yn golygu fy mod i wedi fy ynysu rhag fy nheulu?” gofynna Lucy Owen, sydd wedi cael trafferth i ddysgu Cymraeg.
“Sut bydda i’n helpu â gwaith cartref? Dw i ddim am iddo golli ei Gymraeg, ond a fydd ei Saesneg yn dioddef? Beth os yw’n gwneud prifysgol yn anoddach?”
Wrth geisio gwneud y penderfyniad, bydd y cyflwynydd yn cyfarfod â phobol ar ddwy ochr y ddadl a hefyd yn sgwrsio gyda’r seren rygbi, Jamie Roberts yng Nghaergrawnt i weld sut mae ef wedi elwa ar addysg Gymraeg.
Bydd Welsh or English? Lucy Owen’s Big School Dilemma yn cael ei darlledu ar BBC One Wales, wythnos i nos Lun, Ionawr 25 am 8:30yh.