Mae ymgyrchwyr yn gofyn a fydd rhieni a gafodd ddirwy am fynd â’u plant ar wyliau yn ystod y tymor ysgol, yn cael eu harian yn ôl.

Daw’r galwadau ar ôl i’r Gweinidog Addysg ddweud bod gan rieni hawl i fynd â’u plant ar wyliau yn ystod y tymor os ydyn nhw’n cael caniatâd gan y prifathro.

Fe wnaeth Huw Lewis ei sylwadau mewn llythyr i benaethiaid addysg Cymru, gan ddweud na ddylai plant gael eu tynnu allan o’r ysgol am fwy na 10 diwrnod oni bai bod “amgylchiadau arbennig”.

Cafodd cannoedd o rieni ddirwy yng Nghymru ar ôl i rai cynghorau gynghori penaethiaid na ddylid caniatau gwyliau yn ystod y tymor o dan unrhyw amod.

Ond mae Huw Lewis bellach wedi cadarnhau bod gan benaethiaid y disgresiwn i ganiatáu i blant fynd ar wyliau yn ystod y tymor.

Er hyn, dywedodd mai mater i’r awdurdodau lleol yw penderfynu a ddylid ad-dalu rhieni a gafodd ddirwy am dynnu eu plant o’r ysgol.

“Llawer o bobol wedi cael dirwy pan na ddylen nhw”

Yn ôl Craig Langman, o’r grŵp Parents Want a Say, mae hyn yn newyddion i’w groesawu – ond mae angen eglurhad ar hawliau rhieni i gael eu had-dalu os cawson nhw ddirwy.

“Doedd y gyfraith erioed wedi newid yng Nghymru, felly mae llawer o bobol yng Nghymru wedi cael dirwy pan na ddylen nhw,” meddai wrth golwg360.

Dywedodd fod y grŵp bellach wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn gofyn am eglurhad pellach.

“Mae gan bobol yr hawl i fywyd teuluol, felly gallwn ni ddim gorchymyn i deuluoedd pryd gallan nhw a phryd gallan nhw ddim cael gwyliau, dydy llawer o swyddi ddim yn caniatáu i bobol gael gwyliau yn ystod gwyliau ysgol,” ychwanegodd.

“Mae angen i’r penaethiaid, yr athrawon a’r rhieni gyfathrebu â’i gilydd, ac os yw presenoldeb y plentyn yn dda, a’i fod yn gwneud yn dda yn yr ysgol yna dydy colli pythefnos (o ysgol) ddim yn mynd i gael effaith niweidiol ar ei addysg.”

Un absenoldeb wedi’i gynllunio’n iawn

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC yn tueddu i gytuno â’r farn hon, gan ddweud bod “un absenoldeb am wyliau am gyfnod penodol yn wahanol i absenoldebau cyson”.

“Mae presenoldeb yn bwysig ond pan mae gennych chi absenoldeb sydd wedi cael ei gynllunio a’i gytuno, mae gennych chi gyfle i sicrhau nad yw datblygiad y plentyn yn cael ei niweidio,” meddai Elaine Edwards wrth golwg360.

“Yn yr ysgol mae’r teulu, y plentyn a’u sefyllfa nhw yn adnabyddus, yr ysgol sy’n gwybod y cyd-destun ac felly, mae gwneud penderfyniad ‘blanced’ (o wahardd) yn mynd â’r penderfyniad yn rhy bell oddi wrth yr un sy’n gwneud y cais.”