Joe Chucas
Joe Chucas sydd yn cyhuddo cynlluniau’r Ceidwadwyr o dynnu Cymru nôl i’r gorffennol …

Ymgais chwerthinllyd gan Lywodraeth San Steffan yw’r Mesur newydd i geisio dofi Cymru a thynnu’r wlad yn nôl i’r gorffennol.

Mae hi’n tanseilio’r gefnogaeth gyson sydd wedi bod i ddatganoli, gan mai bwriad y bil yw atal Cymru rhag medru creu deddfau ar faterion sydd eisoes wedi’u datganoli, heb ganiatâd Aelod Seneddol o Lundain.

Yn ystod y refferendwm yn 2011, mi wnaeth 21 o’r 22 awdurdod yng Nghymru bleidleisio dros roi hawl i’r Cynulliad ddeddfu ar yr holl faterion sydd wedi eu datganoli HEB ymyrraeth o San Steffan.

Ond mae’r mesur newydd yn bygwth gwyrdroi’r penderfyniad hwnnw yn llwyr.

Angen y grym

Mae’r polau diweddar wedi awgrymu bod cefnogaeth y Cymry tuag at ddatganoli pellach ar gynnydd, ac mae comisiynau annibynnol Silk a Holtham wedi argymell hyn eisoes.

Wrth edrych yn ôl ar hanes Cymru, fe allwn weld yn sicr pam fod ei angen.

Yn 1965, mi gafodd trigolion Capel Celyn eu gorfodi’n ddisymwth i symud o’u cartrefi, cafodd y capel ei chwalu a’r fynwent ei chladdu dan sment yn ddidrugaredd er mwyn adeiladu’r gronfa ddŵr.

Er yr holl brotestio, gyda 39 o 40 AS Cymru yn pleidleisio yn erbyn hyn (a’r AS arall yn ymatal rhag pleidleisio) fe gafodd y penderfyniad ei wneud. Doedd yr un o ASau Cymru yn cefnogi’r penderfyniad ond mi roedd San Steffan, yn amlwg, yn gwybod yn well.

Wrth edrych nôl ymhellach fe gofiwn fod y Cymry wedi cael eu galw’n ‘ddiog, yn dwp ac yn anfoesol’ ym Mrad y Llyfrau Gleision oherwydd bod gwell ganddynt siarad Cymraeg; ac fe gafodd defnydd o’r iaith ei wahardd mewn ysgolion gyda chosb lem i’r rhai oedd yn mynnu dweud unrhyw beth yn eu hiaith gyntaf.

Fe sylweddolwn hefyd, ar hyd yr 20fed ganrif, nad yw’r Blaid Geidwadol erioed wedi cael mwyafrif yng Nghymru, ond eto dyna’r Llywodraeth wnaeth ein penderfyniadau drosom ni am 57 mlynedd o’r ganrif honno.

Hunanlywodraeth – nid annibyniaeth

Efallai’ch bod chi’n anghytuno â’r hyn rydw i wedi’i ddweud uchod, a’ch bod chi’n credu’r un peth ag arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban – nad yw’r ‘Celtiaid’ yn “genetically programmed” i wneud penderfyniadau.

Ydi Llywodraeth Cymru – sydd wedi cynnal ffioedd dysgu isel, wedi gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr o 23.8%, ac wedi cael gwared â ffioedd presgripsiwn – yn fethiant llwyr?

Mae unrhyw wlad yn llawer mwy llewyrchus os yw hi’n llywodraethu ei hun, ac os oes ganddi wleidyddion sydd wedi’u hethol yn gyfrannol i ganran y pleidleiswyr, gan roi llais go iawn i bobl ynglŷn â dyfodol eu gwlad.

Mae hi’n wir fod Cymru yn wlad rhy fach – rhy fach i gael unrhyw effaith yn San Steffan, hynny yw.

Dyw 40 AS a phoblogaeth o 3.5miliwn byth am greu tolc hyd yn oed, pan mae gan y Deyrnas Unedig 650 o Aelodau Seneddol a phoblogaeth o 60miliwn, niferoedd sy’n drech na Chymru yn hawdd.

Ond dydi hi ddim yn rhy fach i gael hunanlywodraeth, o leiaf i’r un graddau ag y mae Senedd yr Alban yn cael llywodraethu ei hun.

Mae llawer o bobl yn ofni y byddai hyn yn arwain at annibyniaeth i Gymru, ac yn eu tyb nhw ansicrwydd economaidd, ond dadl a refferendwm arall fyddai hynny!

Mae cam mawr rhwng hunanlywodraethu ar faterion sydd wedi’u datganoli, ac annibyniaeth, cam dyw Cymru ddim mewn sefyllfa ddigon cryf i’w cymryd eto – ond nid dyna beth ‘dw i’n ei awgrymu.

Gwleidyddion o fri

Dylai unrhyw un sy’n dadlau na all Cymru gynnig atebion digonol i’w phroblemau gymryd eiliad i gofio am hanes cyfoethog rhai o’n gwleidyddion amlycaf ni.

David Lloyd George, a gyflwynodd Yswiriant Cenedlaethol a phensiynau, wnaeth sefydlu’r Wladwriaeth Les, a gostwng pwerau Tŷ’r Arglwyddi; Aneurin Bevan, a sefydlodd y Gwasanaeth iechyd; James Callaghan, Prif Weinidog y DU yn ystod y saithdegau; Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru a wnaeth ymprydio dros gael S4C; hyd yn oed llwyddiannau diweddar llai amlwg, ond blaengar beth bynnag, gan y Cynulliad gan gynnwys y ddeddf rhoi organau, a threth arfaethedig ar ddiodydd meddal.

Mae’r Mesur Drafft diweddaraf ar gyfer Cymru yn bleidlais o ddiffyg hyder gan San Steffan, sy’n anwybyddu ein hanes gwleidyddol cyfoethog, ein hawl i hunanlywodraeth, a’r effaith enbyd o beidio â gadael i bobl Cymru wneud penderfyniadau dros eu hunain.

Mae Joe Chucas yn fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd ac yn astudio Busnes ar gynllun Erasmus ym Mhrifysgol Toulouse yn Ffrainc.