Gyda rhagolygon y bydd prisiau petrol yn rhatach na phrynu dŵr potel, mae marchnadoedd stoc y byd wedi cwympo’r bore ‘ma oherwydd y gostyngiad mewn prisiau olew crai.
Mae prisiau olew crai wedi cwympo 30% ers dechrau mis Rhagfyr, ac mae llawer o arbenigwyr yn rhagweld y bydd yn cwympo hyd yn oed ymhellach.
Yn ôl y gymdeithas foduro RAC, gall modurwyr yn y DU fod yn talu 86c y litr am eu petrol, cyhyd â bod y bunt ddim yn parhau i wanhau yn erbyn y ddoler.
Ym mis Rhagfyr, cafodd prisiau petrol eu torri gan archfarchnadoedd mawri lai na £1 y litr am y tro cyntaf ers 2009, tra bod prisiau disel wedi mynd yr un ffordd yr wythnos ddiwethaf.
Ond mae hyn yn newyddion gwael i’r marchnadoedd stoc sydd wedi gweld mynegai’r 100 cwmni (FTSE) yn cwympo 1.4%, neu 80.3 pwynt, i 5879.1 ar ôl i bris olew crai ddisgyn yn is na $30 o ddoleri Americanaidd y gasgen.
Yr wythnos ddiwethaf, fe gollodd y marchnadoedd gwerth £85 biliwn o gyfrannau ar yr haen uchaf yn dilyn data economaidd gwael a chwymp mewn masnach ym marchnadoedd China.
Ar hyn o bryd, mae prisiau olew yn parhau i ddisgyn, a does dim arwydd fod hyn am ddod i ben yn fuan.