Mae timau achub mynydd yn ceisio cyrraedd dau ddringwr sy’n sownd yn yr eira yn Eryri.

Fe wnaeth y dringwyr  alw am gymorth am 5.30 brynhawn dydd Mercher ar ôl mynd i drafferthion yn ardal y Glyder Fach.

Methodd hofrennydd  achub gwylwyr y glannau gyrraedd y ddau neithiwr oherwydd stormydd eira, gwyntoedd cryfion a chymylau isel.

Cafodd y chwilio ei ohirio am 1:00 bore dydd Iau ond mae aelodau o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen wedi llwyddo i siarad â’r dringwyr y bore yma ac mae’r chwilio wedi ailddechrau.