Mae Gwyddel wedi cael ei garcharu am flwyddyn ar ôl pledio’n euog yn Tecsas i gyhuddiad o fasnachu cyrn rhinoseros.
Cafodd Patrick Sheridan ei arestio yng Nghaergybi ym mis Ionawr 2015 ar ôl cael ei gyhuddo o’r drosedd yn yr Unol Daleithiau ym mis Mai 2014.
Roedd wedi ei gyhuddo o fasnachu cyrn y rhinoseros du, rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol, prynu dau gorn gan tacsidermydd yn Tecsas a’u gwerthu yn Efrog Newydd, a dau gyhuddiad arall o brynu’n anghyfreithlon yn Tecsas.
Fe wnaeth ei gyd-ddiffynnydd, Michael Slattery Jr, hefyd bledio’n euog yn Brooklyn, Efrog Newydd, am ei rôl yn y cynllun a chafodd ddedfryd o 14 mis yn y carchar.