Iolo Cheung
Mae’n bosib na fydd Prif Weinidog Cymru yn rhy siomedig â’r ddadl ar Ewrop neithiwr, yn ôl Iolo Cheung…
Roedd y pôl piniwn cyflym gan ITV ar Twitter yn dilyn y ddadl ar yr Undeb Ewropeaidd yn eithaf pendant – 79% yn meddwl bod Nigel Farage wedi ennill o’i gymharu â dim ond 21% i Carwyn Jones.
Dyna oedd y farn gyffredinol o’r sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd, gyda’r rheiny fu’n gwylio’r cyfan ar-lein yn tueddu i ddweud bod arweinydd UKIP wedi perfformio’n gryfach na Phrif Weinidog Cymru.
O’r dechrau roedd Nigel Farage yn edrych yn fwy cyfforddus – yn ei elfen wrth gwrs wrth drafod Ewrop, yn enwedig pan symudodd y drafodaeth ymlaen at fewnfudo.
Ar y llaw arall, er bod Carwyn Jones yn amlwg wedi gwneud ei waith cartref, doedd o ddim mor hyderus yn ei atebion ac roedd yn tueddu i ildio’r llwyfan i Farage gael traethu unwaith roedd o wedi ateb â brawddeg neu ddwy.
Mantais i Farage
Arweinydd UKIP fydd hapusaf felly gyda’i noson o waith, ac fe fydd y ddadl hon wedi atgyfnerthu’r gred ymysg ei gefnogwyr mai fo fydd y person gorau i arwain yr ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd pan ddaw’r refferendwm rywbryd eleni mwy na thebyg.
Doedd y ddadl hon ddim yn un oedd mor uchel ei phroffil a hynny, yn sicr ddim y tu hwnt i Gymru, ond roedd yn ymarfer da i Farage o beth allai ddisgwyl mewn dadleuon pellach i ddod.
Serch hynny, dw i ddim yn meddwl y bydd Carwyn Jones yn or-siomedig â’i noson yntau – roedd arddull a phrofiad Farage wastad yn mynd i olygu bod ganddo fantais mewn dadl o’r fath, ac fe fyddai’r Prif Weinidog wedi gwybod hynny.
Mae Carwyn Jones yn hoff o geisio ateb cwestiynau gyda put-downs byr, bachog – fel y gwelwch chi’n aml yn Siambr y Cynulliad – ond neithiwr roedd yr arddull hwnnw’n gwneud iddo swnio nad oedd ganddo lawer i’w ddweud, tra bod Farage yn hapus i barablu’n ddiddiwedd.
Roedd yn bendant ei wrthwynebiad i ddadleuon Farage ar y cyfan, fodd bynnag, a hyd yn oed yn fodlon herio aelod o’r gynulleidfa am dystiolaeth bellach wedi iddo wneud honiadau am ddiswyddo gweithwyr Cymreig ond cadw tramorwyr.
Cadw’n glir o’r Cynulliad?
A fydd y ddau arweinydd yn hapus â'u hymddangosiad neithiwr?
Os mai ceisio sefydlu’i hun fel y prif lais Cymreig o blaid yr Undeb Ewropeaidd oedd gobaith Carwyn, yna roedd jyst bod yn rhan o’r ddadl neithiwr yn mynd tipyn o’r ffordd at gyflawni hynny – dim ond osgoi perfformiad sâl oedd rhaid ei wneud.
Petai rywun eisiau bod yn sinigaidd, wrth gwrs, roedd neithiwr hefyd yn gyfle i godi proffil arweinydd Llafur Cymru cyn pleidlais arall oedd yn ddim i’w wneud â’r Undeb Ewropeaidd.
Roedd trefnwyr y ddadl, y Sefydliad Materion Cymreig, a llywydd y drafodaeth Adrian Masters o ITV yn ymwybodol o hyn wrth gwrs, gan bwysleisio sawl tro wrth yr ymgeiswyr am beidio â thrafod gwleidyddiaeth bleidiol ac etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.
Ond gyda disgwyl y bydd UKIP yn cael cryn effaith ar ganlyniad mis Mai, byddai unrhyw gyfle i’r arweinydd Llafur osod ei hun fel rhyw fath o wrthbwynt i blaid Farage yn gallu bod o gymorth iddo’n etholiadol.
Codi proffil
Fe fydd Carwyn Jones yn ymwybodol iawn o’r hwb posib allai ddod i’w broffil o ddadl deledu o’r fath – mae Leanne Wood o Blaid Cymru yn dal i gael ei chofio am y ffordd heriodd hi Farage yn y dadleuon teledu llynedd cyn yr etholiad cyffredinol.
Yn wir, fe allai’r arweinydd Llafur fod wedi taro’i ergyd “shame on you” ei hun petai Farage wedi dweud unrhyw beth mor ymfflamychol neithiwr ac y gwnaeth o’r llynedd am dramorwyr a HIV.
Hyd yn oed heb y cyfle i wneud hynny, fe fyddai Carwyn Jones wrth ei fodd petai neithiwr wedi bod yn gyfle i bortreadu ei hun fel y gwleidydd fydd yn ymladd dros gadw Cymru yn yr UE.
Wedi’r cyfan, mae pawb yn gwybod nad ffactorau Cymreig yn unig sydd ar waith yn ystod etholiad Cynulliad, ac mae’n anochel y bydd y drafodaeth ar Ewrop yn gorlifo i’r drafodaeth rhywfaint o leiaf.
Eraill yn colli
Roedd neithiwr yn fuddugoliaeth fechan i Nigel Farage felly, yn ei frwydr i geisio cael Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac os rhywbeth wedi niweidio’r ymgyrch Cymreig o blaid aros yn Ewrop.
Ond dw i’n amau a oedd hi’n ergyd i broffil a gobeithion Carwyn Jones yn yr etholiad sydd wedi’r cwbl yn bwysicach iddo fo’n bersonol eleni.
Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol fydd fwyaf siomedig, a hynny gan na chawson nhw’r cyfle i glochdar eu bod nhw’r un mor frwdfrydig i gadw’r cysylltiad â’n cyfeillion cyfandirol.
A’r Ceidwadwyr? Wel, y lleiaf o sylw yng Nghymru i Ewrop y gorau fydden nhw’n ei obeithio o bosib, gan eu bod nhw’n rhanedig ar y mater ac yn llawer mwy awyddus i frwydro etholiad y Cynulliad ar faterion fel iechyd a’r economi.