Mae Cyngor Gwynedd wedi gwrthod cais i adeiladu 21 o dai ychwanegol ar ddatblygiad tai ym Mhenrhosgarnedd, ger Bangor.
Roedd cwmni datblygu tai Redrow wedi ceisio am ganiatâd cynllunio ar y safle yn y Goetre Uchaf sydd eisoes wedi cael caniatâd i godi 245 o dai yno.
Cafodd y cais i adeiladu’r 21 o gartrefi ychwanegol ei wrthod gan Bwyllgor Cynllunio’r cyngor ddoe ar sail gor-ddatblygu, yr effaith ar yr iaith Gymraeg yn lleol a rhesymau isadeiledd.
Wyth aelod o’r pwyllgor a bleidleisiodd yn erbyn y cynnig a phump pleidleisiodd o’i blaid.
Roedd Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Gwynedd o blaid y cais.
‘Dim prinder’ tai ym Mangor
Yn ôl Howard Huws, aelod o’r cyhoedd oedd yn gwrthwynebu’r cais, does dim angen rhagor o dai ar bobol Bangor a’r cyffiniau a bod datblygiad Redrow eisoes yn un o’r rhai ‘mwyaf’ yng Ngwynedd.
Mae hefyd yn cwestiynu addasrwydd y tai sydd eisoes wedi’u hadeiladu ar y safle i bobol leol.
“Dywed Redrow fod mwyafrif helaeth y 50 annedd a werthwyd ar y safle hyd yn hyn wedi’u gwerthu i gwsmeriaid o gylch eang sydd yn cynnwys siroedd Gwynedd, Môn a Chonwy,” meddai.
“Mae hynny’n ddiffiniad llac iawn ar ystyr y gair ‘lleol’: ond hyd yn oed pe derbynnid hynny, peryglus fyddai rhagdybio mai o’r un cylch y daw preswylwyr y 216 annedd arall a godid yno.”
Roedd gwrthwynebwyr hefyd yn poeni dros barhad y Gymraeg fel iaith gymunedol yn yr ardal os byddai’r datblygiad wedi cael sêl bendith y cynghorwyr, gan y byddai’n ‘denu’ nifer o bobol ddi-gymraeg.
‘Pwysau’ ar wasanaethau lleol
A phryder arall oedd sefyllfa’r ffyrdd yn yr ardal, a’r posibilrwydd y gallai datblygiad o’r fath arwain at dagfeydd ar ddiwrnodau gwaith, a’r ysgolion lleol – y Faenol, y Garnedd, Cae Top, Friars a Thryfan, i gyd yn llawn.
Awgrym Gwasanaeth Cynllunio’r cyngor oedd y gallai unrhyw blant ychwanegol fynychu ysgol gynradd Ein Harglwyddes Ddifrycheulyd ond dadl y gwrthwynebwyr oedd ei bod yn bell o’r safle, ac yn ysgol ffydd na fyddai, efallai, yn apelio at rai rhieni.
Roedd rhai yn dadlau hefyd y byddai pwysau ychwanegol ar wasanaethau iechyd yr ardal, fel Ysbyty Gwynedd a meddygfeydd teuluol.
Dyma’r ail gais cynllunio yn ddiweddar i’r Pwyllgor Cynllunio wrthod, gyda’r datblygiad arfaethedig ym Mhen-y-ffridd, yn yr un ardal, i godi 366 o dai yn cael ei atal.
Dim penderfyniad terfynol
Ond yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd, nid dyma ddiwedd y mater a bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yn y ‘dyfodol agos’.
“Ym marn yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio ac Amgylchedd, mae risg sylweddol i’r Cyngor o ran y penderfyniad i wrthod y cais yn groes i argymhelliad swyddogion, felly cyfeiriwyd y mater i gyfnod cnoi cil yn unol â rheolau sefydlog y pwyllgor,” meddai’r llefarydd.
“Bydd y cais yn cael ei gyfeirio nôl i’r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol agos er mwyn amlygu’r materion polisi cynllunio, risgiau posib a’r opsiynau posib i’r Pwyllgor cyn iddynt ddod i benderfyniad terfynol ar y cais.”