Lenny Henry'n cael sylw gan Hefin Jones yr wythnos hon
Gyda’i dafod yn ei foch – efallai – dyma Hefin Jones gyda’i olwg unigryw ar rai o’r straeon sydd wedi bod yn corddi’r dyfroedd …
Gwybodusion Caerdydd
”Mae gan Gaerdydd fwy o raddedigion” esboniodd y llywodraeth wrth gyfiawnhau cau swyddfa dreth Wrecsam wedi ymholiad yn gofyn beth oedd eu gêm yn symud 350 o swyddi i’r brifddinas. A chan mai gweithio i’r swyddfa dreth yw nod pob myfyriwr dim rhyfedd fod rhaid mynd â’r mynyddoedd moel anfyfyriol at Mohammed. Ond, mi gaiff y staff yn Wrecsam, Abertawe a Phorthmadog – fel staff pedair swyddfa arall gaewyd yn 2015 – gynnig symud i Gaerdydd, felly dim bwys.
Hedfan baner BAE
Newyddion llon i gyfranddalwyr BAE Systems wrth i’r datganiad am fomio Syria, a’r hysbysebion cyson a roddodd Dai Cam i’w ‘Brimstone missiles’ angenrheidiol ac-o-mor-gywir, arwain at gynnydd sylweddol o 14% yn eu stoc dros y dyddiau wedyn. Ar ben siarad yn eu swper blynyddol llwyddodd Dai ei hun i achub y ddêl £4.4biliwn rhwng Sawdi Arabia a’r cwmni am 72 jet Typhoon pan oedd yn edrych mewn peryg. Nadolig llawen felly i British Aerospace a’u cyfeillion.
Mojo San Steffan
“Britain has got its mojo back and we are going to be with you as we reassert Western values, confident that our best days lie ahead” Austin Powers-iodd George Osborne wrth ryw Americanwyr yn America, yn dathlu fod ei senedd wedi pleidleisio bomio Syria gan ddefnyddio esgus ymosodiadau Paris, ddwy flynedd ar ôl i’r senedd lwfr, ddiegwyddor, ddewis peidio â bomio Syria ar yr esgus arall.
Sŵn yr SNP
Wedi ei fywiogi drwyddo aeth George Osborne ymlaen i alw’r SNP yn “noisy and aggresive block”, yn wahanol i’r casgliad tawel a heddychlon sy’n eistedd y tu ôl iddo yntau, cyn sicrhau ei gynulleidfa yn Efrog Newydd na fyddai’r Alban yn cael pleidlais arall ar adael y Deyrnas Unedig am genhedlaeth o leiaf, gan mai ef a’i deip sy’n penderfynu’r pethau yma. “It would be a real tragedy if Scotland left the United Kingdom. Thankfully, the Scottish people by a majority chose not to do that in the referendum” snortiodd.
Dathlu’n fuan
“I cannot believe that Plaid has got this so wrong. Important that media report this properly,” dathlodd Alun Davies, yn hyderus fod Cymru’n derbyn taliad ychwanegol fel iawndal am y biliynau a gaiff eu gwario ar y lein drên HS2 o Firmingham i Lundain – fel y caiff Gogledd Iwerddon a’r Alban. “Gawn ni weld pwy sy’n iawn yfory” paniciodd wedi i rai chwerthin, ac fe gafwyd gweld hefyd. O, Alun.
Credoau cryf
“Politics is about changing the world against our convictions” addysgodd Chris Bryant y dorf wrth dderbyn ei dlws yng Ngwobrau Gwleidyddol ITV Cymru. Efallai fod Chris yn cymysgu gwleidyddiaeth gyda Llafur Newydd.
Ble roedd Alex?
Buddugoliaeth fach arall i Lafur wrth i’w Haelod Seneddol dros Bermondsey & Old Southwark, Neil Coyle, ymateb i sylw Alex Salmond y dylai Jeremy Corbyn roi Hilary Benn yn ei le, a gwneud hynny gyda’r sylwad craff: “Salmond says sack man who voted on Syria. Odd; he didn’t bother voting at all”. Roedd rhaid i Alex esbonio mai’r rheswm na welodd mohono oedd nad oedd yn yr un lobi â Neil a’r Torïaid, gan nad oedd wedi pleidleisio’r un ffordd.
Dyfyniad creadigol
Ar ei thudalen Facebook dangosodd Lucy Allen, yr AS Ceidwadol dros Telford, un enghraifft o’r bygythiadau annerbyniol ar ei bywyd a anfonwyd ati gan yr eithafwyr gwrth-fomio. Yn anffodus iddi hi, roedd gyrrwr y neges yn talu sylw a nododd nad oedd erioed wedi ychwanegu’r frawddeg olaf “unless you die”. Esboniodd Lucy ei bod wedi cymysgu negeseuon ac wedi ychwanegu’r un frawddeg fach drwy ddamwain llwyr. Fel y bydd rhywun.
Darogan gwallus
Rhaid printio pan mae’n rhaid printio, felly anffodus oedd pennawd cynnar y Times ar gyfer isetholiad Oldham West & Royton ar erthygl yn esbonio’r difrod y mae arweinydd amhoblogaidd Llafur yn ei achosi. Roedd “Labour is counting the cost in Oldham” yn edrych braidd yn wirion wedi i’r canlyniad ddangos cynnydd o 7% ym mhleidlais Lafur.
Talu’r pris
Yn dynn ar ôl cau cyfrif y Palestinian Solidarity Campaign mae’r banc clên, y Co-Operative Bank, wedi cau cyfrif y Cuba Solidarity Campaign. Does dim modd cysylltu’r symudiadau yma o gwbl gyda’r ffaith i’r banc gael ei brynu gan gonglomerat Americanaidd yn ddiweddar.
Wyneb cyfarwydd
Dyrchafiad anochel i bawb oedd ynghlwm â dangos clip o’r cogydd Ainsley Harriot ar eitem ITV ar Lenny Henry yn derbyn un o anrhydeddau’r British Empire gan y Frenhines. Ar ganol cyfweliad gyda’r derbynnydd balch, dangoswyd clip o Ainsley’n dawnsio’n llon. Hyn yn yr un wythnos ag y nododd Lenny “for the last 18 months, the TV industry has not only recognised that there is a major problem with diversity, but it’s actually starting to do something about it”. Wel, roedd yna un wyneb ychwanegol beth bynnag.