Yr olygfa wedi'r saethu (Llun PA)
Fe gafodd dyn ei saethu’n farw gan yr heddlu mewn digwyddiad yng ngogledd Llundain.

Yn ôl Heddlu Llundain, roedd y lladd yn rhan o gyrch a oedd yn ganlyniad i wybodaeth gudd.

Ond maen nhw wedi pwysleisio nad oedd y digwyddiad yn ymwneud ag ymosodiadau brawychol.

Balaclafas

Fe ddigwyddodd y saethu tua naw y bore yma ar gornel stryd o dai yn Wood Green.

Erbyn hyn, mae’r heddlu wedi codi pabell wen ac mae swyddogion wedi cael eu gweld yn cario bagiau tystiolaeth.

Roedd swyddogion mewn balaclafas yn rhan o’r ymosodiad ac roedd cerbydau heddlu yno gyda ffenestri tywyll a rhifau cofrestru wedi’u cuddio.