Llun o wefan yr heddlu
Fe gafodd dyn 20 oed ei anafu’n ddifrifol mewn ymosodiad ym Mangor.

Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am dystion i’r digwyddiad yng ngolau dydd mewn maes chwarae ger Ffordd Seiriol yn y ddinas.

Er fod dyn yn ei 20au bellach wedi ei arestio, mae’r heddlu’n dal i chwilio am ragor o wybodaeth am yr ymosodiad a ddigwyddodd tua 3.30 brynhawn ddoe.

Mae’r dioddefwr yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol, er nad yw ei fywyd mewn peryg.