Jonathan Edwards (Llun Plaid Cymru)
Mae un o Aelodau Seneddol Cymru wedi galw am sicrhau fito i i Gymru rhag i wasanaethau cyhoeddus gael eu cynnwys yng nghytundeb rhyngwladol TTIP a fydd yn rhoi llawer rhagor o rym i gwmnïau mawr.
Fe ddylai Llywodraeth Cymru a llywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon gael yr hawl i ddweud ‘na’ neu fod yn rhan canolog o’r trafodaethau, meddai Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru yn Ninefwr a Dwyrain Caerfyrddin mewn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin.
Y pryder yw y gallai agweddau Llywodraeth Prydain fod yn wahanol iawn o ran gwasanaethau cyhoeddus yn Lloegr, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd, ac fe allai hynny arwain at ragor o breifateiddio a rhoi gwaith i gwmnïau Americanaidd.
“Dylai llywodraethau datganoledig y Deyrnas Unedig gael fito ar TTIP, neu o leiaf fod yn rhan o broses ymgynghori sy’n parchu eu barn, gan y bydd unrhyw elfennau o’r cytundeb sy’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus yn effeithio ar eu polisïau yn uniongyrchol,” meddai.
Pryderon TTIP
Mae’r Bartneriaeth Fasnach a Buddsoddi TrawsIwerydd – neu’r TTIP – yn gytundeb masnachol sy’n cael ei drafod ar hyn o bryd rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau.
Y pryder yw y gall TTIP roi hawliau i gwmnïau preifat gystadlu i redeg rhannau o’r gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Mae cefnogwyr y cytundeb yn dweud y bydd yn rhoi hwb mawr i economi Ewrop; mae beirniaid yn dweud y bydd yn rhoi llawer gormnod o rym i gwmnïau preifat, gan gynnwys preifateiddio gwasanaethau cyhoeddus.
Ofn preifateiddio
Er fod yr Undeb Ewropeaidd wedi rhoi gwarant na fydd llywodraethau’n cael eu gorfodi i breifateiddio, fe allai agwedd Llywodraeth Prydain fod yn wahanol iawn i lywodraethau’r tair gwlad ddatganoledig.
Yn ôl Jonathan Edwards, mai enghreifftiau mewn gwledydd eraill yn dangos bod modd tynnu rhai sectorau o’r cytundeb ac mae e am weld Llywodraeth Cymru yn cael yr hawl i benderfynu ar agweddau o TTIP.
“Mae agwedd y gwasanaeth iechyd yn Lloegr yn wahanol i’r un yng Nghymru, felly ddylai e ddim bod yn rhan o’r un fargen,” meddai Jonathan Edwards AS wrth golwg360.
Potensial Cymru yn y fargen
Roedd y cydnabod bod potensial gan Gymru i daro bargen fasnach “hynod arwyddocaol” ond na ddylai hynny ddim yn mynd “ar draul gwasanaethau cyhoeddus, safonau amgylcheddol, diogelwch na chyfiawnder cyhoeddus” y wlad.
Ere i fod o blaid datblygu cysylltiadau masnach rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau, roedd ganddo nifer o amheuon am TTIP, meddai, gan gynnwys y ffaith fod llawer o’r trafodaethau wedi digwydd yn ddirgel.
“Os nad oes dim i’w guddio yna does bosib y dylid cynnal y trafodaethau mewn sesiynau cyhoeddus llawn a chyhoeddi manylion y cynlluniau fel mater o arfer,” meddai.
Roedd yr SNP a’r DUP (plaid fwyaf Gogledd Iwerddon) hefyd yn cefnogi ei alwadau ac wedi beirniadu’r cytundeb yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe.