Sian Gwenllian - cefnogaeth unfrydol i'w chynnig (Llun o'i thudalen Twitter)
Mae arweinwyr Cyngor Gwynedd wedi rhybuddio y bydd rhaid iddyn nhw wneud toriadau sylweddol i wasanaethau yn dilyn y cyhoeddiad am ostyngiad yn eu harian.

Fe fydd y cyngor yn trafod y manylion yr wythnos nesa’ ac, yn ôl yr arweinydd, Dyfed Edwards, fydd ganddyn nhw ddim dewis.

Roedden nhw wedi llwyddo i warchod gwasanaethau yn y gorffennol, meddai, ond roedd y toriad diweddara’ o 1.7% – bron £3 miliwn – yn gwneud hynny’n amhosib y tro yma.

Rhwng popeth, meddai, fe fyddai’r cyngor yn wynebu torri £7 miliwn ar wasanaethau.

Condemnio

Ddoe, fe bleidleisiodd y cyngor yn unfrydol o blaid cynnig yn condemnio’r toriadau, gan roi’r bai ar y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain.

“Dydyn ni erioed wedi gorfod meddwl am wneud penderfyniadau mor anodd â’r rhai fydd yn ein hwynebu ym mis Mawrth flwyddyn nesa’,” meddai’r Cynghorydd Sian Gwenllian, a osodydd y cynnig.

“Does dim dewis gynnon ni ond gweithredu oherwydd byddai gwrthod gwneud penderfyniadau yn golygu na fydden ni’n gallu gosod cyllideb ar gyfer y Cyngor ac wedyn yn methu â thalu ein gweithwyr a’r busnesau eraill sydd ynghlwm â gwaith y Cyngor.”