Kirsty Williams (Gwefan y Democtratiaid Rhyddfrydol)
Mae angen newid y fformiwla sy’n rhannu arian i gynghorau sir Cymru, meddai Cyngor Powys, wrth wynebu’r toriad mwya’ o bob sir yn y flwyddyn ariannol nesa’.
“Mae’r fformiwla angen ei newid yn sylfaenol,” meddai Dirprwy Arweinydd y Cyngor, Wynne Jones, sydd hefyd yn gyfrifol am Gyllid.
“Dydy o ddim yn ateb y diben a dydy o ddim yn adlewyrchu’r cynnydd henoed ym Mhowys na’r gost o ddarparu gwasanaethau mewn sir wledig, fawr.”
Galw ar ACau i wrthwynebu
Mae Wynne Jones wedi galw ar Aelodau Cynulliad y sir i bleidleisio yn erbyn Cyllideb Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys y setliad i’r cynghorau.
Un o’r ACau yw Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, sydd eisoes wedi taro bargen i gefnogi Cyllideb y Llywodraeth Lafur.
Ond, yn ôl Wynne Jones, mae angen iddyn nhw ymgyrchu i newid y fformiwla sy’n gwneud cam â siroedd y tu allan i’r canolfannau trefol mawr.
Y toriadau
Fe fydd Powys yn wynebu toriadau o 4.1% y flwyddyn nesa’ – bron £7 miliwn – tra bod y toriad ar gyfartaledd i’r holl siroedd yn ddim ond 1.4%.
Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i Bowys fod ar waelod y rhestr ac roedd arweinwyr gwleidyddol wedi ymateb gyda “sioc a dicter”, meddai’r cyngor sir.
Oherwydd fod Llywodraeth Cymru’n gwarchod gwario ar addysg a gwasanaethau cymdeithasol, fe fyddai’n rhaid i’r toriadau ddod o ychydig o feysydd, medden nhw.
Ateb y Llywodraeth
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r fformiwla’n cael ei chytuno bob blwyddyn trwy drafodaeth gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol.
Ac yn ôl tabl arian y pen, nid Powys yw’r isa’.