Ysgol Glan Morfa Sblot (o gyfri Twitter yr ysgol)
Mewn cyfarfod neithiwr, fe roddodd Cyngor Caerdydd sêl bendith ar wario bron i £60m ar greu ysgolion newydd yn y ddinas, gan gynnwys dwy ysgol gynradd Gymraeg newydd i ardaloedd Trebiwt a’r Sblot.
Mae ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg yn yr ardal wedi disgrifio’r penderfyniad fel “cam sylweddol ymlaen”.
Mae disgwyl i’r ysgolion ar Heol Hamadryad yn Nhrebiwt ac yn y Maltings, Sblot, agor ym mis Medi 2017 a bydd y cyngor yn dechrau ar broses ymgynghori bellach ynglŷn â’r cynllun.
Yn Sblot, mae’n golygu codi ysgol fwy ar safle newydd.
‘Diwallu anghenion’
“Mae’r cynigion diweddaraf hyn yn fuddsoddiad o fwy na £58m mewn addysg ar gyfer nifer o gymunedau yn y ddinas, gan gynnwys rhai o’n hardaloedd mwya’ di-fraint,” meddai’r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry.
“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu addysg yng Nghaerdydd sy’n diwallu anghenion ein plant a phobol ifanc yn llawn.”