Mae prisiau petrol a diesel ar eu rhataf ers chwe blynedd wrth i Asda a Morrisons dorri eu prisiau petrol i lai na £1 y litr, yn yr ychydig wythnosau cyn y Nadolig.

Bydd y gostyngiad ym mhrisiau Asda, sy’n disgyn 2c i 99.7c yn para tri diwrnod o heddiw ymlaen, tra bod Morrisons yn dweud eu bod yn gobeithio cadw eu pris o 99.9c am “mor hir â phosib”.

Yn ôl Asda, fe fydd eu pris diesel hefyd yn cael ei dorri i 103.7c y litr, tra bydd Morrisons yn torri 1c .

Dywedodd Morrisons y byddai gyrwyr cyffredin bellach yn arbed £17 yr wythnos ers i brisiau petrol gyrraedd eu huchafbwynt ym mis Mai 2011.

Mae prisiau olew bellach o dan $40 y gasgen.