Ed Garner (Llun Hybu Cig Cymru)
Rhaid i ffermwyr cig oen Cymru anelu at bobol ifanc, yn ôl arbenigwr ar batrymau siopa.
Pobol hŷn sy’n dueddol o brynu cig oen ond y farchnad ifanc yw’r dyfodol, yn ôl Ed Garner, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Kantar Worldpanel.
Roedd hefyd yn dweud bod angen anelu at yr archfarchnadoedd poblogaidd newydd, Aldi a Lidl sy’n gwerthu mwy a mwy o gig ffresh.
Heneiddio = cig oen
“Wrth ichi heneiddio, r’ych chi’n fwy tebyg o brynu cig oen ac mae hynny’n golygu mai prynwyr ifanc yw’r peth allweddol wrth symud ymlaen,” meddai Ed Garner wrth y corff hyrwyddo Hybu Cig Cymru.
Roedd mwy o gig oen hefyd yn cael ei werthu trwy siopau cigydd traddodiadol, er mai dim ond 10% o’r farchnad gig sydd gan y rheiny erbyn hyn.
Y farchnad dwf, meddai, oedd siopau rhad Aldi a Lidl sydd wedi bod yn cynyddu eu gwerthiant o gig ffresh o 40% a 23%.