Protest yn erbyn ehangu Heathrow (KT0288 CCA3.0)
Mae ymgyrchwyr ar y ddwy ochr wedi condemnio’r Llywodraeth am fethu â gwneud penderfyniad tros lain glanio ychwanegol ym maes awyr Heathrow.

Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi cael ei gyhudd o fod yn “llwfr” ar ôl torri ei addewid i gynnig ateb erbyn diwedd y flwyddyn.

Yn ôl ymgyrchwyr gwyrdd, fe ddylai fod wedi gwrthod y syniad yn llwyr; yn ôl pobol fusnes, mae’r gohirio’n gwneud drwg i economi gwledydd Prydain.

‘Chwarae gwleidyddiaeth’

Mae’r Ceidwadwyr wedi cael eu cyhuddo o chwrae gwleidyddiaeth trwy ohirio’r penderfyniad er mwyn osgoi embaras adeg etholiada Maer Llundain.

Un o’r prif ymgyrchwyr yn erbyn llain arall yn Heathrow yw eu hymgeisydd nhw, Zac Goldsmith.

Fe gafodd y penderfyniad ei ohirio am chwech mis, yn union wedi’r etholiadau, gyda’r Llywodraeth yn dweud bod angen astudiaeth amgylcheddol arall.

Yr ymateb

“Mae’r wleidyddiaeth yn gwneud hyn yn anodd i’r Llywodraeth, ond mae gwyddoniaeth hinsawdd yn ei gwneud hi’n hawdd: does dim angen ymestyn rhagor ar feysydd awyr,” meddai unig Aelod Seneddol y Blaid Werth, Caroline Lucas.

“Mae’n siomedig iawn fod y Llywodraeth wedi methu â phenderfynu,” meddai Nathan Stower, Prif Weithredwr Cymdeithas Trafnidiaeth Awyr Prydain. “All y Deyrnas Unedig ddim dal i ohirio’r penderfyniad anodd ond allweddol yma tra bod ein cystadleuwyr rhyngwladol yn ennill tir.”