Symbol o'r gynhadledd ym Mharis (Llun: COP21)
Mae arweinwyr rhyngwladol yn y gynhadledd ar newid hinsawdd ym Mharis wedi methu â chytuno ar gytundeb i fynd i’r afael â newid hinsawdd dros y byd.
Ond fe fydd y trafod yn parhau am ddiwrnod ychwanegol gyda’r arweinwyr yn gobeithio dod i gytundeb erbyn fory.
Cafodd ddrafft newydd o’r cytundeb ei gyhoeddi neithiwr, ac mae’n debyg bod y gwledydd yn “agos iawn at y llinell derfyn”.
‘Angenrheidiol’
Mae fersiwn diweddaraf o’r cytundeb yn ceisio cadw cynnydd yn nhymheredd y byd yn is na 1.5C, sy’n “angenrheidiol” i ddyfodol rhai gwledydd, yn enwedig yn Asia ac yn Affrica.
Mae hefyd yn amlinellu bwriad gwledydd i leihau lefelau’r nwyn tŷ gwydr sy’n cael eu gollwng, gan anelu at gyrraedd sefyllfa niwtral yn ail hanner y ganrif.
Dim ond 27 tudalen yw’r fersiwn diweddara’ – llawer byrrach na fersiynau blaenorol – ac, yn ôl adroddiadau o Baris, mae arweinwyr byd yn cytuno ar “y rhan fwyaf” o’i gynnwys.
Materion allweddol yn destun dadl
Y materion allweddol sy’n destun dadl o hyd yw arian gan wledydd cyfoethog i wledydd tlawd, cyfrifoldeb gwledydd datblygedig a pha mor uchelgeisiol yw’r cytundeb ar y cyfan.
Mae rhai hefyd wedi galw am drefn adolygu i sicrhau bod gwledydd yn adolygu eu cynlluniau bob pum mlynedd er mwyn sicrhau eu bod ar y trywydd cywir i leihau effeithiau newid hinsawdd.
Mae rhai eisuau i’r system adolygu ddechrau cyn 2020, pan fydd y cytundeb newydd yn dod i rym, ac maen nhw’n debygol o fod yn anhapus â’r drafft presennol, sydd yn “gwahodd” gwledydd i ddiweddaru eu cynlluniau erbyn 2020, ond heb eu gorfodi.