Kensington lle mae'r stryd ddruta' yng Nghymru a Lloegr (llun parth cyhoeddus)
Mae ymchwil newydd yn tanlinellu’r gwahaniaethau anferth mewn cyfoeth rhwng rhannau gwahanol o Gymru a Lloegr.

Yn ôl Banc Lloyds mae pob un o’r 50 stryd lle mae’r tai druta’ yn ne Lloegr ac mae wyth o’r deg stryd ddruta’ yng Nghymru yn ardal Caerdydd.

Mae prisiau tai ar y stryd ddruta’ oll – yn Kensington, Llundain – tros £8 miliwn ar gyfartaledd ac mae tai ar bob un o’r 50 druta’ yn costio mwy na £2 filiwn.

Strydoedd druta’ Cymru

Heol Druidstone yn ardal Llaneirwg yw’r stryd ddruta’ yng Nghymru, gyda’r pris ar gyfartaledd yn £793,000.

Mae saith o’r deg arall yng Nghaerdydd a Phenarth a dwy yn ardal Abertawe ond yng Nghymru y mae’r prisiau isa’ o’r holl ranbarthau economaidd.

Roedd y rhestr wedi’ chreu trwy ystyried prisiau tai rhwng 2010 a 2015.

Cyfoeth De-ddwyrain Lloegr

Yn Lloegr, dim ond tair o’r 50 stryd ddruta’ sydd y tu allan i Lundain neu’r De-ddwyrain – pob un yn y De-orllewin.

Ond yn ôl y banc, mae yna glystyrau drud ychydig y tu allan i ganolfannau poblogaeth mawr, fel Manceinion a Leeds, ac mewn trefi fel Caergrawnt.