Mark Drakeford (Llun: Senedd TV)
Fe fydd cleifion yng Nghymru’n gallu defnyddio ffonau symudol i gael barn doctor a gweld eu cofnodion iechyd eu hunain.
Fe fyddan nhw hefyd yn gallu defnyddio ffonau, llechi electronig ac appiau i drefnu apwyntiadau ac archebu moddion a helpu i reoli eu hiechyd eu hunain.
Dyna galon strategaeth newydd sy’n cael ei chyhoeddi heddiw gan y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.
Fe fyddai iechyd pobol yn well trwy roi mwy o ran iddyn nhw ochr yn ochr â doctoriaid, meddai.
Monitro eich iechyd eich hun
Defnydd arall o’r dechnoleg i gleifion fyddai monitro cyflyrau iechyd tymor hir sydd ganddyn nhw, megis diabetes neu’r fogfa.
Fe fydd y strategaeth yn golygu bod staff iechyd a gofal hefyd yn gallu defnyddio technoleg ddigidol i gael gafael ar wybodaeth am gleifion pan fyddan nhw allan yn y maes.
Fe fyddan nhw hefyd yn gallu anfon negeseuon atgoffa i bobol ynglŷn â chymryd moddion neu wneud ymarfer corff.
Roedd Mark Drakeford wedi cyhoeddi ym mis Ebrill y llynedd y byddai grŵp arbenigol yn gweithio ar strategaeth ddigidol newydd gydag addewid y byddai’n cael ei gwblhau erbyn yr haf neu hydref eleni.
“Mae rhoi rhagor o reolaeth i bobol dros eu gofal a mynediad at eu cofnodion yn rhan bwysig o gydnabod bod canlyniadau iechyd yn llawer gwell pan fydd cyfraniad cleifion yn cael lle ochr yn ochr â chyfraniad staff,” meddai Mark Drakeford.
“Mae’n rhaid i staff rheng flaen sy’n gweithio yn ein gwasanaethau iechyd a gofal hefyd gael mynediad at y dechnoleg ddigidol ddiweddaraf, sy’n eu galluogi i ddarparu gwasanaethau mewn ffyrdd newydd ac arloesol sy’n rhoi blaenoriaeth i anghenion y cleifion.”