Jane Hutt - 'arfogi perchnogion a rheolwyr
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd gwerth £3.9m i helpu perchnogion a rheolwyr busnesau i feithrin sgiliau arwain a rheoli.

Prifysgolion Abertawe a Phrifysgol Bangor sydd wedi bod yn gweithio ar brosiect ION Leadership, sy’n cael £2.7m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop i helpu busnesau bach a rhai canolig i ‘lwyddo’.

Nod y rhaglen yw datblygu sgiliau arwain rheolwyr busnesau, gan wella perfformiad busnesau yn y Gogledd, y Gorllewin a Chymoedd y De, ac arwain at gynnydd mewn elw a thwf.

Bydd y cynllun yn para tair blynedd gan geisio helpu dros 590 o entrepreneuriaid mewn rhaglenni mewn sgiliau arwain ymarferol.

‘Arfogi perchnogion’

Yn ôl Gweinidog Cyllid Cymru, Jane Hutt, bydd “arfogi” perchnogion busnes â sgiliau yn arwain at “well perfformiad” er mwyn ennyn “cystadleuaeth ac ennill contractau newydd”.

“Bydd prosiect ION Leadership yn mynd â’r cysylltiad rhwng Prifysgolion Abertawe a Bangor a busnesau bach a chanolig i lefel newydd sbon,” meddai’r Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B. Davies.

“Bydd y Brifysgol yn helpu perchnogion a rheolwyr busnesau bach a chanolig gan ddefnyddio dulliau cadarn a llwyddiannus ar gyfer hybu twf busnesau.”

Ychwanegodd yr Athro John G. Hughes, Is-ganghellor, Prifysgol Bangor: “Mae economi Cymru’n dibynnu ar dwf busnesau bach a chanolig. Rydyn ni fel Prifysgol wedi gweld y manteision a ddaeth i fusnesau drwy fuddsoddi yn eu sgiliau arwain a rheoli.”