Mauricio Macri
Mae Arlywydd newydd yr Ariannin wedi tyngu llw heddiw mewn seremoni urddo, gan olynu Cristina Fernandez.

Mae  Mauricio Macri yn gyn-faer Buenos Aires, ac yn aelod o un o deuluoedd cyfoethocaf yr Ariannin.

Bu’n tyngu llw gerbron  cynrychiolwyr o sawl gwlad gan gynnwys Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns AS, oedd yn cynrychioli Llywodraeth Prydain, a’r Brenin Juan Carlos I o Sbaen.

Alun Cairns yw’r swyddog cyntaf o Lywodraeth Prydain i fod yn bresennol yn y seremoni’r ganrif hon yn dilyn y tensiwn hanesyddol sydd wedi bod rhwng y ddwy wlad yn sgil rhyfel Ynysoedd y Falkland.

Dywedodd ei fod am gael “perthynas adeiladol a chadarnhaol” â llywodraeth newydd Mauricio Macri.

“Mae’r flwyddyn hon yn nodi 150 o flynyddoedd ers i Gymry gyrraedd Patagonia, felly mae’n addas bod gweinidog o Gymru yn cynrychioli Llywodraeth y DU yn yr urddo,” meddai Alun Cairns AS.

Addewidion Macri

Dywedodd Mauricio Macri y byddai’n rhwydo gwariant gweinyddol ei ragflaenydd, sydd wedi arwain at argyfwng ariannol arall yn ôl rhai economegwyr y wlad.

Addawodd hefyd i ddiwygio’r farchnad rydd a “gwrando mwy a siarad llai,” gan gyfeirio at ddadleuon tanbaid Cristina Fernandez.

Mae Cristina Fernandez a chyn hynny, ei gŵr diweddar a’i rhagflaenydd, Nestor Kirchner, wedi rheoli tirlun gwleidyddol yr Ariannin ers y 12 mlynedd diwethaf.

Roedd y cwpl wedi cynyddu gwariant ar gynlluniau lles cymdeithasol tra’n codi tollau mewn ymgais i ddiogelu diwydiannau lleol ac unioni’r wlad ag arweinwyr asgell chwith fel Arlywydd diweddar Venezuela, Hugo Chavez ac Arlywydd Bolivia, Evo Morales.

Does dim mwyafrif gan Mauricio Macri yn naill siambr y Gyngres, ond mae ei blaid yn gryf yn ninas Buenos Aires ac yn nhalaith Buenos Aires, lle mae 40% o boblogaeth y wlad yn byw.