Cyngor Sir Ceredigion
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu parhau â’i gynlluniau i gau dwy ysgol gynradd yng ngogledd y sir.

Yn ôl y Cyngor, mae niferoedd Ysgol Llangynfelyn yn Nhaliesin, ger Machynlleth wedi disgyn yn is na 30 ac mae Ysgol Cwm Padarn, yn Llanbadarn, Aberystwyth yn agos i dair ysgol arall lle mae’r niferoedd hefyd yn disgyn.

Mae rhieni wedi bod yn brwydro yn erbyn y penderfyniad i gau’r ddwy ysgol, gyda rhieni Cwm Padarn yn casglu dros 1,000 o enwau ar ddeiseb a rhieni Llangynfelyn yn bygwth mynd â’r achos i adolygiad barnwrol.

Pwyslais ar ‘gost’ yn hytrach na ‘gwerth’

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu penderfyniad y Cyngor heddiw i gau Ysgol Gynradd Llangynfelyn, gan ddweud nad yw’n cydnabod ‘gwerth yr ysgol i’r gymuned’.

“Rydyn ni’n rhannu tristwch rhieni, plant a chymuned Llangynfelyn ac yn llawn edmygedd o’u dyfalbarhad wrth ymgyrchu,” meddai Bethan Williams, swyddog maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith.

“Mae pwyslais y cyngor ar ‘lefydd gwag’ mewn ysgolion ac ar gost o hyd – yn hytrach na gwerth yr ysgol i’r gymuned, rydyn ni wedi’n siomi bod y cyngor, eto, yn dangos mor ddiddychymyg ydyn nhw, wrth gau ysgol arall.”

‘Pwysigrwydd addysg Gymraeg’

Ychwanegodd Bethan Williams: “Byddwn ni’n cynnal rali genedlaethol yng Nghaerdydd fis Chwefror flwyddyn nesaf er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd addysg Gymraeg i bawb er mwyn creu Miliwn o siaradwyr Cymraeg.

“Mae Cyngor Ceredigion heddiw wedi rhoi enghraifft arall o’r angen i ymgyrchu dros addysg Gymraeg i bawb, yn eu cymuned.”