Elin Jones AC
Mae’r Aelod Cynulliad dros Geredigion Elin Jones wedi croesawu cyhoeddi adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar y cynllun i ailagor cysylltiad rheilffordd rhwng Aberystwyth, Tregaron, Llambed a Chaerfyrddin.

Mae ailagor y lein, a gaewyd yn y 60au, wedi bod yn destun ymgyrch frwd gan fudiad Trawslink Cymru. Cafodd yr astudiaeth gychwynnol ei chynnal gan gwmni ymgynghorol AECOM er mwyn ystyried opsiynau ar gyfer ailagor y llinell, ac i ymchwilio pa waith fyddai ei angen gan astudiaeth ddichonoldeb lawn.

Bu Elin Jones yn holi Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn y Cynulliad yr wythnos hon, os gellid gwneud yr adroddiad yn gyhoeddus, a nawr mae’r ddogfen wedi ei rhyddhau.

“Mae’r astudiaeth yn gam cyntaf gwerth chweil, ac yn bwysig oherwydd dyma’r tro cyntaf i lywodraeth gomisiynu gwaith i edrych ar ailagor y llinell ers ei chau hanner canrif yn ôl,” meddai Elin Jones.

Amlinellu’r gwaith angenrheidiol

Yn ôl Elin Jones, “Mae’r adroddiad yn amlinellu’r gwaith fyddai ei angen, a’r pynciau sydd angen eu hystyried, gan gynnwys y llwybr i mewn i Aberystwyth a’r angen i feddwl am sut byddai rheilffordd a llwybr troed yn cyd-redeg.

“Mae’n dod i’r casgliad fod 97% o’r llwybr ar gyfer y trac yn dal i fodoli, ac rydym wedi gweld yn ne’r Alban sut y gall prosiect i adfer hen reilffordd roi hwb i’r economi leol.”

‘Cyfran deg’

Mae Elin Jones yn teimlo fod yr arian ar gael  i ail agor y lein yn wyneb gwariant ar gynllun Hs2 yn Lloegr, fel yr eglurodd, “Amcangyfrifir cost adeiladu o £350 miliwn, gyda chyllid wrth gefn a phryniant tir ar ben hynny fyddai’n golygu cyfanswm o rhwng £500 a £750 miliwn.

“I roi hyn mewn cyd-destun, mae cynllun HS2 yn Lloegr i fod i gostio £55.7 biliwn, a gall godi i gymaint â £80 biliwn. Byddai cyfran deg o’r arian yma i Gymru yn golygu rhwng £3 a £4.5 biliwn – mwy na digon i gyllido’r prosiect yma a sawl un arall.”

Ychwanegodd: “Mae’r ffaith fod yr ymgyrch wedi cyrraedd y pwynt yma yn glod i waith caled mudiad Trawslink. Rwy’n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i ddod â phawb at ei gilydd i ystyried yr ymateb llawn i’r adroddiad hwn, ac edrychaf ymlaen at weld camau nesaf y prosiect.”