Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud ei fod yn ymchwilio i nifer o achosion o “sextortion” ar-lein.

Yn ôl yr heddlu, mae nifer cynyddol o bobol yn cael eu bygwth gan droseddwyr sy’n eu denu i gynnal sgyrsiau ac anfon lluniau o natur rywiol ar-lein.

Mae’r troseddwyr yna’n bygwth cyhoeddi lluniau noeth ohonyn nhw ar-lein a’u dangos i’w teuluoedd a’u ffrindiau os nad ydyn nhw’n derbyn swm o arian.

Targedu trwy Facebook

Mae troseddwyr fel arfer yn targedu pobol drwy anfon cais ffrind iddyn nhw drwy Facebook, cyn symud i wefan fideo, fel Skype, lle gallan nhw berswadio’r person sy’n cael ei dwyllo i dynnu ei ddillad.

Ar ôl iddyn nhw gael y fideo, byddan nhw’n ceisio blacmelio’r person hwnnw i anfon arian atyn nhw, fel arfer i gyfrif banc tramor.

Mae’r heddlu am rybuddio pobol i fod yn wyliadwrus ar-lein ac i beidio â chael eu denu gan y bobl  hyn.

“Y ffordd orau o atal y troseddwyr hyn rhag gwneud troseddau o’r fath yw peidio â chymryd rhan mewn gweithgaredd o’r fath,” meddai’r Ditectif Ringyll Rob Gravelle, o Dîm Troseddau Seibr Heddlu Dyfed Powys.

“Y foment rydych chi’n cymryd rhan, rydych yn agored i gael eich ecsbloetio gan y troseddwyr.”

Y camau i gofio rhag cael eich twyllo

 

  • Byddwch yn ymwybodol o bwy rydych yn gwahodd neu’n derbyn gwahoddiadau ar gyfryngau cymdeithasol. Peidiwch â derbyn ceisiadau ffrind gan bobol nad ydych chi’n eu nabod.
  • Sicrhewch fod gosodiadau preifatrwydd eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol wedi’u gosod i sicrhau mai dim ond eich ffrindiau gall weld eich proffil.
  • Peidiwch â chael eich perswadio i wneud unrhyw beth o flaen eich gwe-gamera. Cofiwch fod popeth sy’n mynd ar-lein yn gallu aros ar-lein.
  • Os ydych yn dioddef y math hwn o dwyll, peidiwch ag ymateb i orchmynion y troseddwr, rhowch wybod i’r heddlu a’r gwefan cymdeithasol perthnasol.