Abbie Bolitho
Abbie Bolitho sy’n trafod ymateb rhai o fyfyrwyr Caerdydd i benderfyniad y gwleidyddion yr wythnos yma …
Wrth i Aelodau Seneddol bleidleisio o blaid gweithredu filwrol yn Syria nos Fercher mae llawer o bobl, yn enwedig pobl ifanc, wedi dadlau nad oedd eu lleisiau nhw wedi cael eu clywed.
Fe gefnogodd mwyafrif ASau San Steffan gynnig David Cameron gan gynnwys 15 AS o Gymru – ond ble mae’r penderfyniad yn ein gadael ni yng Nghymru nawr gydag anghytuno ar draws y wlad? Ac ydi pobl ifanc Cymru’n cytuno gyda’r penderfyniad?
‘Cynyddu tensiynau hiliol’
Wrth i mi drafod y pwnc â chriw o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, y teimlad cyffredinol oedd bod hyn yn rhywbeth drwg.
Cydymdeimlad tuag at ddinasyddion y wlad oedd prif bryder rhai fel Leoni Emanuel a ddywedodd ei bod hi’n “anghytuno gyda’r penderfyniad am y bydd llawer o bobl ddiniwed yn marw”.
Ychwanegodd Sean Howe ei fod yn credu y bydd bomio yn creu “tensiwn hiliol – tensiwn cryfach na sydd gyda ni ar hyn o bryd”.
Mae IS yn achosi tensiwn ynghylch y gymuned Fwslimaidd yn barod, gan eu bod yn defnyddio Islam i gyfiawnhau’u troseddau sy’n difetha enw’r grefydd.
“Dyw bob Mwslim ddim yn gyfrifol am derfysgaeth,” esboniodd Shannon Farina-Childs, sy’n astudio Addysg Grefyddol.
“Mae ISIS yn ffwndamentalwyr eithafol a dydyn nhw ddim yn defnyddio cysyniadau’r Qur’an yn gywir.”
Y broblem yw nad yw llawer o bobl yn deall hyn achos bod y cyfryngau yn rhoi pwyslais mawr ar agwedd crefyddol y terfysgwyr.
Pryder yng Nghaerdydd
David Cameron yn annerch ASau yn ystod y ddadl am gyrchoedd awyr Syria yr wythnos hon (llun: PA)
Prin iawn oedd myfyrwyr nes i ddod ar eu traws sydd yn cefnogi’r penderfyniad i fomio Syria, ond roedd Elyse Brydon o Gaerffili yn teimlo bod rhaid i ni ymateb er mwyn diogelwch y wlad.
“Maen nhw wedi dod yn agos atom ni yn barod gyda’r holl bethau ym Mharis felly dim ond mater o amser sydd cyn iddyn nhw gyrraedd Prydain … mae’n well i ni actio nawr cyn ei bod hi’n rhy hwyr!” meddai.
Mae’n amlwg iawn bod yr ymosodiadau ym Mharis wedi codi cwestiynau am ddiogelwch ein gwlad ac am ein cyfrifoldeb ni i anfon neges at ISIS yn yr un modd ac y gwnaeth Ffrainc, America a Rwsia.
Fodd bynnag, roeddwn i’n synnu bod mwyafrif y myfyrwyr yn credu bod y penderfyniad “ddim yn mynd i gael effaith arnon ni yng Nghymru,” fel y dywedodd un, heblaw am y bobl sydd â theulu yn Syria.
Mae rhai wedi awgrymu y dylen ni wneud mwy i helpu pobl fel hyn i ddod i Brydain, ond mae ffoaduriaid yn fater hollol wahanol.
Ar y llaw arall, roedd Leoni yn dadlau ei bod hi’n hollol bosibl i’r grŵp eithafol dargedu llefydd yn y wlad hon, yn enwedig dinasoedd fel Caerdydd.
“Mae’r brifddinas yn boblogaidd, a does dim llawer o ddiogelwch fel yn Llundain. Mi fyddai ymosodiad yno yn creu effaith mawr … dw i’n teimlo’n nerfus nawr a dw i’n poeni am y perygl yma,” meddai.
Er gwaethaf pryder a gwrthwynebiad y myfyrwyr hyn, mae’r ymosodiadau wedi dechrau yn barod a’r mater allan o’n rheolaeth ni. Gallwn ond obeithio nawr y bydd y gweithredu’n filwrol yn rheoli’r sefyllfa yn Syria heb beryglu dinasyddion diniwed a diogelwch Prydain.
Mae Abbie Bolitho yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.