Mae dyn 75 oed fu’n arwain cwlt Maoistaidd yn Llundain yn wynebu treulio gweddill ei oes yn y carchar ar ôl cael ei ganfod yn euog o nifer o droseddau rhywiol.

Fe glywodd Llys y Goron Southwark bod Aravindan Balakrishnan, neu’r ‘Cymrawd Bala’, wedi ymosod yn rhywiol ar ferched a chadw’i ferch ei hun yn garcharor am 30 mlynedd mewn cymuned dan ei reolaeth.

Fe lwyddodd i dwyllo’i ddilynwyr i feddwl bod ganddo bwerau duwiol, gan ddyfeisio grym goruwchnaturiol o’r enw ‘Jackie’ a fyddai’n creu dinistr os nad oedd ei ddilynwyr yn ufuddhau.

Fe gafodd ferch gydag un o’i ddilynwyr, Sian Davies, a fu farw ar noswyl Nadolig 1996 ar ôl cwympo o ffenest cartref y cwlt. Cadwodd Aravindan Balakrishnan y ferch honno yn wystl ac fe ddisgrifiodd hi’r teimlad fel bod yn “aderyn mewn cawell”.

Rheoli cwlt

Llwyddodd y ferch i ddianc yn 2013 gyda help elusen, a hynny ar ôl dianc unwaith yn 2005 dim ond i gael ei hel gartref gan yr heddlu am ei bod yn Ŵyl y Banc.

Dywedodd y ferch ei bod hi’n “hapus iawn” â’r ddedfryd, gan ychwanegu bod Balakrishnan “ar ddiwedd y dydd dal yn dad i mi”.

Cafwyd Aravindan Balakrishnan yn euog ar chwe chyhuddiad o ymosodiad anweddus, pedwar cyhuddiad o dreisio, dau gyhuddiad o achosi niwed corfforol, creulondeb tuag at blentyn, a charcharu anghyfiawn.

Roedd ‘Y Cymrawd Bala’ wedi dod i Brydain o Singapore yn 1963 i astudio ym Mhrifysgol y London School of Economics, ac erbyn yr 1970au roedd yn arweinydd ar grŵp comiwnyddol o’r enw’r Workers Institute yn Brixton.

Ond fe glywodd y llys bod Aravindan Balakrishnan wedi troi’r grŵp i mewn i ‘gwlt Bala’ wrth i niferoedd yr aelodau leihau, gan ddefnyddio trais ac ofn i reoli ei ddilynwyr.