Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi rhybuddio pobl i fod yn ofalus wrth i ragolygon awgrymu bod disgwyl rhagor o law trwm dros y penwythnos.
Gogledd Cymru sy’n debygol o weld y gwaethaf o’r tywydd ac er nad oes disgwyl cymaint o law trwm mewn mannau eraill, fe allai ardaloedd sydd eisoes yn wlyb gael eu taro gan lifogydd.
Ychwanegodd CNC y gallai’r tywydd achosi trafferthion i deithwyr, yn enwedig os ydi gwyntoedd cryfion yn creu difrod.
Map byw
Mae disgwyl i’r asiantaethau tywydd ddiweddaru eu gwybodaeth a’u rhybuddion drwy gydol y penwythnos.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y byddai eu swyddogion yn monitro afonydd ac amddiffynfeydd llifogydd er mwyn ceisio lleihau’r risg i’r cyhoedd.
“Rydyn ni’n gofyn i bobl gymryd gofal a chymryd cip rheolaidd ar ein rhybuddion llifogydd, sydd yn cael eu diweddaru bob 15 munud ar y map rhybudd llifogydd byw ar ein gwefan,” meddai Rheolwr Tactegol Dyletswydd CNC Mike Thomson.
“Gyda rhagolygon yn dweud y bydd mwy o dywydd gwlyb fe ddylech chi hefyd gadw llygad ar adroddiadau tywydd a newyddion lleol ar gyfer unrhyw drafferthion yn eich ardal chi, a gadael mwy o amser ar gyfer siwrnai.”