Mae Canolfan Pontio Prifysgol Bangor am annog artistiaid a gwyddonwyr i gydweithio ac arloesi trwy gynnig gwobr ariannol iddyn nhw.
Fel rhan o gynllun newydd SYNTHESIS, mae’r ganolfan wedi lansio cystadleuaeth sy’n cynnig gwobr o £2,000 i ddau bâr gwahanol o wyddonwyr ac unigolion sy’n gweithio ym myd y celfyddydau perfformio i ddatblygu syniadau newydd.
“Gall fod ar ffurf perfformiad, gall fod yn gofnod o broses fel ffilm, mi allai fod yn rhannu darnau gwahanol o syniad sydd mewn datblygiad,” meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio oedd yn pwysleisio bod y gystadleuaeth yn un agored iawn.
“Bydden ni’n hoffi ein bod ni’n gallu dehongli gwyddoniaeth mewn ffordd wahanol neu fod artist yn meddwl mewn ffordd wahanol wrth weithio gyda gwyddonydd.”
Mi wnaeth y ganolfan lansio’r cynllun SYNTHESIS yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni gan drafod sut mae’r ddau faes – gwyddoniaeth a’r celfyddydau – yn plethu gyda’i gilydd a beth oedd y ‘potensial’ o’u cyfuno.
Elen ap Robert yn esbonio wrth Golwg360 pam aethpwyd ati i sefydlu’r gystadleuaeth:
Chwilio am bartneriaeth newydd
Y bwriad yw ‘creu gofod’ er mwyn i ddau faes sy’n cael eu hystyried yn gwbl ddieithr i’w gilydd ddod at ei gilydd.
“Rydan ni’n chwilio am ffordd o ddatblygu gwaith newydd a ffordd o ddatblygu partneriaeth newydd,” ychwanegodd Elen ap Robert.
Dywedodd hefyd y bydd y gystadleuaeth yn rhoi ‘ystyriaeth arbennig’ i geisiadau sydd wedi’u hysbrydoli themâu penodol.
Mae’r rhain yn cynnwys adeilad Pontio ei hun, y darn o gelf gyhoeddus, Caban sydd yn nhirlun Pontio, rhywbeth i deuluoedd a phlant dan 12 oed, neu rywbeth sydd wedi’i anelu at bobol hŷn neu bobol sy’n dioddef o ddementia.
Bydd dau bâr yn ennill – un sy’n creu rhywbeth Cymraeg neu ddwyieithog ac un arall mewn categori agored.
‘Ethos’ Pontio ar ffurf prosiect
Yn ôl Elen ap Robert, mae’n bwysig bod y prosiect yn ‘bartneriaeth’ a bod un ochr ddim yn gwthio’r llall ond bod creu ‘syniad arloesol’ yn bwysig hefyd.
“Rydyn ni eisiau syniad arloesol, rhywbeth a fydd yn gobeithio yn gwneud i ni edrych ar y byd mewn ffordd wahanol,” meddai.
“Peilot ydy o ar hyn o bryd ond rydyn ni’n gobeithio y gall ddatblygu i fod yn fenter sydd yn mynd i allu tyfu. Mae’n enghraifft o’r ffordd y gallai Pontio weithredu.”
“Mae Canolfan Pontio ei hun yn fwy na rywbeth celfyddydol, mae ‘na bresenoldeb arloesi yma.”
Ac mae Elen ap Robert yn credu bod cyfuno’r ddau faes gyda’i gilydd yn ffordd o ‘gyflwyno ethos Pontio ar ffurf prosiect” a gweld “dwy siwrne.”
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 29 Ionawr a bydd y ddau bâr o enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 20 Mawrth fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Bangor. Bydd y prosiect yna’n dechrau ym mis Ebrill ac yn cael ei gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2016 yn Stiwdio Pontio.