Llys y Goron Abertawe
Mae bodybuilder wedi cael ei ddedfrydu i oes dan glo, a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf wyth mlynedd a hanner mewn carchar, ar ôl ceisio lladd ei gariad ac yna’i chladdu mewn bedd o frigau a llwyni.

Roedd Keith Hughes, sydd yn 39 oed, wedi ceisio tagu Stacey Gwilliam, 34, ar ôl i’r ddau ohonyn nhw ffraeo wrth gerdded ym Mae Caswell ger Abertawe.

Mae Stacey Gwilliam bellach yn gorfod defnyddio ffon i gerdded ac yn dal i dderbyn triniaeth ffisiotherapi a chwnsela ers yr ymosodiad.

 ‘Mynd i farw’

Yn ystod yr ymosodiad fe ddywedodd Stacey Gwilliam wrth Lys y Goron Abertawe ei bod hi wedi colli ymwybyddiaeth ac wedi deffro mewn tywyllwch.

“Roed e’n teimlo fel petawn i wedi cael fy nghladdu mewn bedd. Roedd brigau wedi marw, rhedyn a llwyni drosaf i gyd,” meddai.

“Roedd y tyfiant mor drwm arna i roeddwn i’n cael trafferth anadlu a chofio ble oeddwn i. Roedd e i gyd ar fy mhen – roedd gen i deimlad clawstroffobig o gael fy nhrapio.

“Roeddwn i’n teimlo wedi fy mharlysu, roedd popeth fel petai’n digwydd mor sydyn. Roeddwn i’n meddwl mod i am farw achos doeddwn i prin yn gallu anadlu.

“Fe lwyddais i droi drosto a chropian, gan balu gyda fy ewinedd a llusgo fy hun allan.”

‘Roeddwn i’n ei garu’

Fe glywodd y llys bod Keith Hughes eisoes wedi treulio bron i bedair blynedd yn y carchar ar ôl ymosod ar Stacey Gwilliam o’r blaen.

Ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar ym mis Chwefror eleni fe ailgydiodd y ddau yn eu perthynas, ac ym mis Gorffennaf fe wnaethon nhw ddyweddïo.

“Roedd e wedi bod yn dreisgar i mi sawl gwaith ond roeddwn i’n ei garu ac fe wnaeth e addo na fyddai’n fy mrifo eto,” meddai Stacey Gwilliam yn ystod yr achos llys.

Fe orffennodd hi ag e ar ôl iddo ei chicio hi a dwyn arian o’i chyfrif banc, cyn iddo ymddiheuro a gofyn iddi ddod am dro gydag ef er mwyn ceisio adfer y berthynas.

Ond ar ôl iddi hi ei wrthod fe ymosododd Keith Hughes arni unwaith eto a’i thagu cyn ei chladdu yn y bedd bas, ac ar ôl cael ei darganfod fe fu’n rhaid iddi dreulio pythefnos mewn coma yn yr ysbyty.