Comisiynydd y Gymraeg

Ddechrau’r wythnos roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn honni bod Meri Huws wedi dweud celwydd wrthyn nhw ynghylch creu amserlen ar gyfer creu hawliau i wasanaethau Cymraeg gan gwmnïau ffôn a thelathrebu cyn diwedd 2015.

Ond yn ôl Comisiynydd y Gymraeg mewn datganiad i golwg360, nid yw’r honiad y mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud yn ei herbyn “yn ffeithiol gywir”.

Mae llefarydd ar ran y Comisiynydd wedi dweud ei bod wedi cyhoeddi ei hamserlen “yn unol â’i bwriad” o gynnal ymchwiliadau safonau ar sefydliadau yn y sector ynni a’r sector trafnidiaeth.

Roedd y Gymdeithas wedi croesawu’r ffaith y bydd cwmnïau trafnidiaeth, nwy a thrydan yn dod o dan y safonau newydd – ond roedden nhw’n mynnu ei bod hi’n “anodd credu” nad yw’r un peth yn wir o ran cwmnïau ffôn a thelathrebu.

Y Comisiynydd wedi “dweud celwydd”

Meddai Manon Elin James, llefarydd hawliau Cymdeithas: “Addawodd y Comisiynydd y byddai hi’n cyhoeddi amserlen ar gyfer yr holl sectorau preifat sy’n dod o dan y Mesur cyn diwedd y flwyddyn. Roedd hi’n gwbl glir yn y cyfarfod y bydd y cyhoeddiad hwn yn cynnwys yr holl sectorau sy’n bosibl eu henwi yn y ddeddfwriaeth.

“Mae hi wedi mynd yn ôl ar ei gair, ac wedi dweud celwydd wrthon ni, sy’n gwbl annerbyniol.”

Ond mae llefarydd ar ran y Comisiynydd yn dweud nad yw honiadau’r mudiad yn gywir ac y bydd yn “cynnal gwaith mapio yn ystod y flwyddyn ar gyfer y sectorau eraill a enwir yn y Mesur”.