Tro pedol Michael Gove sy'n cael sylw...
Gyda’i dafod yn ei foch – ella – dyma Hefin Jones gyda’i olwg unigryw ar rai o’r straeon sydd wedi bod yn corddi’r dyfroedd …

Pris cyfiawnder

Ar ôl i 50 Ynad ymddiswyddo mewn protest mae Michael Gove wedi diddymu’r tâl oedd yn cael ei godi ar ddiffynyddion oedd yn pledio’n ddieuog a chael eu dedfrydu’n euog. Mae’n ymddangos fod Michael wedi cael ar ddeall ei fod yn annog pobl i bledio’n euog waeth beth yr amgylchiadau, syniad oedd yn amlwg yn rhy ddyrys iddo wrth ddod a’r peth i rym fis Ebrill.

Swyddfa ddrudfawr

£16.9miliwn yw taliad Cyngor Sir Ddinbych i Neptune Developments er mwyn rhyddhau eu hunain o gytundeb i edrych ar ôl eu swyddfa yn Rhuthun, lle maen nhw wedi bod yn talu £2.6miliwn y flwyddyn i Neptune ers iddyn nhw ei adeiladu dan fantra mawr PFI Llafur Newydd, ‘Private Finance Initiatives’, yr hybrid hynod hanfodol rhwng busnes preifat a’r sector gyhoeddus. Diolch i Shane Brennan o’r Denbighshire Free Press am y gwaith twrio.

Galwad brys gan yr heddlu

Buddugoliaeth arall i fiwrocratiaeth wrth i Heddlu’r Gogledd lwyddo i wario £560,000 ar gytundeb ffonau symudol ac yna anghofio ei ddefnyddio. ‘Rydym mewn trafodaethau i adennill yr arian’ medden nhw, yn amlwg â phrofiad helaeth o ddelio â’r cwmnïau ffôn hael eu cymwynas.

Toriad-aye

Efallai bod S4C wedi cael tro gwael gan y Ceidwadwyr, ond nid un mor ddrwg ac a gafodd yr Albanwyr. Diddymu eu cyfraniad i BBC Alba yn gyfan gwbl oedd eu hanrheg iddyn nhw. Ond dydi hi ddim fel petai neb yn y wlad yn gobeithio gadael dylanwad Llundain am byth, felly pa bwys.

Codi cyflog Un

… ar y llaw arall, mae’r frenhines wedi derbyn codiad cyflog sylweddol o 7%, neu £2.8miliwn, felly nid drwg nad yw’n dda i rywun.

Gollum neu Smeagol?

At arweinydd arall, ac wythnos brysur i Erdogan o Dwrci. Mae doctor yn y llys yn wynebu dwy flynedd o garchar am ddangos llun yn ymdebygu Erdogan i Smeagol, neu Gollum os mynnwch, o Lord of the Rings.

Mae’r barnwr yn aros am dystiolaeth gan ddau seicolegydd, dau academydd ac arbenigwr ffilm i ddarganfod os yw Smeagol/Gollum yn gymeriad drwg neu beidio, cyn dyfarnu. Nid jôc oedd hynna, na hyn chwaith – mae’r cyfarwyddwr Peter Jackson wedi ochri gyda’r doctor gan ddatgan mai lluniau o Smeagol ydyn nhw, ac mai Gollum yw’r un drwg.

Gwerth am arian

£7miliwn yn ddrytach oedd cynnig y cwmni Alliance Medical Group ar gyfer cytundeb peiriannau sganio ysbyty Stoke, a does dim cysylltiad yn y ffaith i’r Torïaid ei roi i’r cwmni a’r ffaith fod Malcolm Rifkind, yr Aelod Seneddol Torïaidd, yn gyfarwyddwr ar Alliance. Y Gwasanaeth Iechyd eu hunain oedd y bidiwr arall, ond yn amlwg roedd cwmni Malcolm yn llawer mwy tebol o’i gyflawni am £80miliwn yn hytrach na’u £73m drud hwythau.

Dim i’w weld fan hyn …

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yw’r pwnc diweddaraf i dderbyn sylw’r Torïaid, a’r pryder ei fod yn gosod gormod o ddyletswydd ar sefydliadau i ddweud y gwir er eu holl dyllau deinig. Un beirniad llym o’r ddeddf dros y blynyddoedd yw Jack Straw, sy’n poeni am ei rôl yn Rhyfel Irac a’i gydweithio â MI6 a’r CIA i arteithio pobl. Un arall yw Michael Howard oedd yn flin iawn i gael ei ddarganfod yn hawlio costau seneddol am dacluso ei ardd. Felly pwy well i fod ar y pwyllgor pum dyn na Jack Straw a Michael Howard.

Caeth i coke

Digwyddiad diwylliannol mwyaf y flwyddyn wrth i lori Coca-Cola gyrraedd Bae Colwyn, Y Drenewydd, Llanelli a Chaerdydd wythnos yma. Fel gwelwyd yng Nghaernarfon yn 2014 bydd cannoedd o blant bach â’u hwynebau’n bictiwr wrth iddyn nhw edrych i fyny ar eu rhieni a phendroni a ydyn nhw cweit llawn llathen.

Rhy dda o lawer

Am y 74ain gwaith y tymor yma bu i Malcolm Allen ddatgan fod chwaraewr ar Sgorio yn ‘llawer rhy dda i’r lefel yma’. Cieslewicz o’r Seintiau Newydd oedd y tangyflawnwr (ynteu gorgyflawnwr?) y tro hwn, fel pob un arall o’i glwb a rhyw bum dwsin arall o’r gynghrair.