Pa bwerau fydd yn dod i Fae Caerdydd o dan Fesur Cymru?
Wrth i Fesur Drafft Cymru yn cynnig rhagor o bwerau i’r Cynulliad gael ei chyhoeddi yr wythnos hon, mae’n deg dweud nad yw’r farn amdani wedi bod yn unfrydol.

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb mae’r cynigion sydd wedi dod gan ei lywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn rhai fydd yn creu “setliad datganoli cryf” a sicrhau “Cymru gryfach mewn Teyrnas Unedig gref a llwyddiannus”.

Ond mae’r cynigion eisoes wedi cael eu beirniadu gan rai o’r pleidiau gwleidyddol eraill, gyda Phrif Weinidog Llafur Cymru Carwyn Jones yn disgrifio’r mesur fel “cam yn ôl”  ac eraill fel Plaid Cymru’n eu cyhuddo o fod yn “sarhâd” i’r genedl.

Heddiw mae podlediad diweddaraf Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn trafod y pwerau sydd wedi cael eu cynnig ym Mesur Ddraft Cymru.

Yr Athro Richard Wyn Jones sydd yn holi’r cyfreithwyr Manon George (Canolfan Llywodraethiant Cymru) ac Emyr Lewis (cwmni Blake Morgan):