Llys Ynadon Casnewydd
Mae dyn o Lerpwl wedi ymddangos o flaen llys ynadon Casnewydd wedi’i gyhuddo o ddwyn trelar yn cludo gwerth £20,000 o fisgedi ym mis Mehefin.

Fe gafodd y dyn 24 mlwydd oed ei arestio ar amheuaeth o ddwyn trelar oedd yn perthyn i gwmni Burton’s Food Ltd ar Ffordd Tŷ Coch yng Nghwmbrân yn ystod oriau man y bore ar Fehefin 17.

Cafwyd hyd i’r trelar  wag yn ardal Warrington yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ac ers hynny mae sawl cerbyd wedi’u canfod gan yr heddlu mewn cysylltiad â’r lladrad.

Mae’r dyn wedi cael ei gyhuddo o ladrata a dwyn y cerbyd. Fe ymddangosodd o flaen Llys Ynadon Casnewydd bore yma.