Mae athro a disgybl wedi cael eu lladd ar ôl i ddyn arfog ymosod arnyn nhw gyda chyllell mewn ysgol yn ne Sweden.
Cafodd y dyn 21 oed, a oedd yn gwisgo mwgwd, ei saethu gan yr heddlu yn ystod yr ymosodiad mewn ysgol yn Trollhattan, ger Goteborg. Mae e hefyd mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yng nghaffi’r ysgol sydd ar agor i oedolion.
Dywedodd yr awdurdodau yn Trollhattan bod athro wedi marw yn y fan a’r lle ar ôl cael ei anafu yn yr ymosodiad a bod dau ddisgybl, 11 a 15 oed, ac athro arall hefyd wedi’u hanafu’n ddifrifol. Bu farw un o’r disgyblion yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Mae gan yr ysgol 400 o ddisgyblion.
Yn ôl y cyfryngau yn Sweden roedd yr ysgol wedi cynnal cyfarfod bore dydd Iau i drafod pryderon athrawon bod yr ysgol yn rhy agored, gyda chaffi i oedolion ar y safle sy’n golygu na all yr ysgol reoli pwy sy’n dod i’r adeilad.
Dywedodd papur newydd Dagens Nyheter bod yn rhai i ddisgyblion fynd drwy’r caffi i gyrraedd ffreutur yr ysgol a rhannau eraill o’r adeilad.
Mae Prif Weinidog Sweden, Stefan Lofven, sydd ar ei ffordd i Trollhattan, wedi dweud ei bod yn “ddiwrnod du” a bod ei feddyliau gyda’r dioddefwyr a’u teuluoedd, ynghyd a disgyblion a staff yr ysgol.