Mark Carney
Mae’r Canghellor George Osborne wedi amddiffyn ymyrraeth  Llywodraethwr Banc Lloegr, Mark Carney yn y drafodaeth dros aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd wrth iddo wynebu beirniadaeth gan gyn-ganghellor.

Mae’r Cyn Ganghellor, yr Arglwydd Nigel Lawson sy’n arwain yr ymgyrch Geidwadol i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi mynnu fod Mark Carney yn anghywir i ymuno yn y drafodaeth wleidyddol, gan nodi ei fod yn mynd tu hwnt i’w ddyletswyddau fel llywodraethwr.

‘Ymyrryd’

Fe ddywedodd Mark Carney fod yr Undeb Ewropeaidd wedi gwneud yr economi Brydeinig yn ‘fwy deinamig’ ac yn ‘fwy agored’ ond ‘wedi gadael yr economi yn agored i sioc allanol’.

Bu’r Arglwydd Nigel Lawson, a fu’n Ganghellor am chwe blynedd yn ystod llywodraeth Margaret Thatcher, yn siarad ar raglen Today ar BBC Radio 4.

Dywedodd: “Rwyf wedi adnabod llawer o lywodraethwyr dros y blynyddoedd a dwi heb ddod ar draws llywodraethwr a fyddai’n barod i ymyrryd mewn trafodaeth wleidyddol fel hon.”

‘Annibynnol’

Ond wfftiodd George Osborne hynny gan groesawu geiriau’r llywodraethwr, wrth iddo annerch pwyllgor y Trysorlys yn y Senedd.

Dywedodd: “Mae Llywodraethwr Banc Lloegr yn annibynnol, nid yw’n ddinesydd Prydeinig – mae’n dod o Ganada, ac mae wedi gwneud asesiad o’n haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

“A’r asesiad ydi fod yr Undeb Ewropeaidd yn cyfrannu at economi agored a dynamig, ond mae yna sialensiau gwirioneddol o’n blaenau wrth i barth yr ewro barhau i integreiddio ac mae Prydain angen sicrwydd.”

Ychwanegodd George Osborne: “Mae’n amlwg fod gan Nigel farn gref ar yr Undeb Ewropeaidd a dwi’n meddwl ei fod yn siomedig nad yw Mark Carney yn cytuno gydag ef.”