Huw Lewis
Bydd Gweinidog Addysg Cymru yn dweud wrth brifathrawon mewn cynhadledd heddiw ei fod am weld cwricwlwm newydd yn dod i Gymru erbyn 2018.

Mae Huw Lewis wedi derbyn pob un o argymhellion yr d yn yr adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ oedd yn canolbwyntio ar y cwricwlwm a’r trefniadau asesu mewn ysgolion yng Nghymru.

Yn y gynhadledd Addysg Genedlaethol, bydd yn lansio ei gynllun ‘Cwricwlwm i Gymru – Cwricwlwm am Oes’, sy’n nodi’r camau y bydd y llywodraeth a gweithwyr yn y sector addysg yn eu gwneud i lunio a datblygu cwricwlwm newydd erbyn 2018.

“Cyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru”

Wrth siarad cyn y gynhadledd, dywedodd y Gweinidog Addysg y bydd y cwricwlwm yn “un fydd yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif a lle bydd y syniadau cenedlaethol a rhyngwladol diweddaraf yn dylanwadu arno.”

“Rwy’n benderfynol y bydd ein cwricwlwm newydd yn ymgorffori gwell dysgu a safonau uwch i bawb ac er mwyn ein helpu i sicrhau y bydd hyn yn digwydd, rwyf am i’r proffesiwn ddysgu chwarae rhan ganolog yn ei lunio a’i ddatblygu,” meddai.

“Fy uchelgais i yw y bydd gan ysgolion Cymru gwricwlwm newydd erbyn 2018 gyda’r dysgu ffurfiol cyntaf yn digwydd erbyn 2021.

“Does yna dim dwywaith bod hwn yn gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru.”

Yn ôl yr Athro Donaldson, mae Cymru “ar fin dechrau ar ddiwygiad radical o’i chwricwlwm a’i threfniadau asesu.”

“Yr her yw bod yn greadigol ac yn realistig wrth greu cwricwlwm a fframwaith asesu newydd.”

Beirniadaeth am beidio â diddymu Cymraeg Ail Iaith

Yr wythnos ddiwethaf, fe gafodd Huw Lewis AC ei feirniadu’n hallt am ddweud na fyddai’n diddymu ‘Cymraeg Ail Iaith’ fel pwnc yn y cwricwlwm newydd.

Y gred gyffredinol yw bod disgyblion sy’n astudio Cymraeg Ail Iaith â gafael wan iawn arni, ac mae academydd blaenllaw, yr Athro Sioned Davies, wedi galw am ddiddymu’r pwnc mewn adroddiad a gomisiynwyd gan y llywodraeth.

“Dedfryd oes o fywyd heb y Gymraeg”

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn golygu dim newid. Mae hynny’n mynd i arwain at y rhan fwyaf o’n plant yn cael amddifadu o’r gallu i fyw eu bywydau yn Gymraeg. Mae’r cyhoeddiad felly yn ddedfryd oes o fywyd heb y Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf,”  meddai llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone.

“Yn ôl Graham Donaldson mae angen ‘gweithredu gan ddilyn gweledigaeth glir’. Mae parhau gyda threfn dysgu’r Gymraeg fel ail iaith yn dangos diffyg gweledigaeth ac yn tanseilio unrhyw ddatblygiad posibl.”

Mae’r Gweinidog Addysg wedi dweud ei fod “am i bob plentyn gael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn llwyddiannus”, a’i fod yn “ymrwymedig i weld y sector addysg Gymraeg yn tyfu”.