Mae dros 100 o ffoaduriaid wedi treulio eu noson gyntaf ar safle’r Awyrlu yn Akrotiri yng Nghyprus ar ôl i gychod oedd yn cludo dynion, menywod a phlant gyrraedd yno’n ddirybudd ddoe.

Roedd y ffoaduriaid wedi ffoi o’u mamwlad i chwilio am loches yn Ewrop.

Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei bod wedi trefnu y bydd pob un o’r teithwyr, sef dros 100 ohonynt, yn cael eu rhoi yng ngofal yr awdurdodau yng Nghyprus.

Bydd y ffoaduriaid, sy’n cynnwys pobl o Syria, Irac, Libya a Thwrci, yn cael eu symud i ganolbarth y wlad, yn agos i’r brifddinas, Nicosia ar ôl treulio noson mewn ysgubor awyrennau ar safle milwrol y DU.

Dyma’r tro cyntaf yn ystod yr argyfwng ffoaduriaid presennol ym Mor y Canoldir y mae mewnfudwyr wedi cyrraedd tiriogaeth sofran y Deyrnas Unedig.

‘Mae ofn arna’ i’

“Rwy’n dod o Foroco ond yn byw yn Syria. Roedd ofn arna’ i (ar y cwch),” meddai Jana, dynes feichiog oedd ar y cwch.

“Roeddwn ni’n pryderu am be oedd yn mynd i ddigwydd i mi. Rwyf am fynd i Ewrop. Rwyf eisiau gadael fan hyn. Mae ofn arna’ i.”

Dywedodd ei gŵr, Mustapha: “Roeddwn i’n meddwl ein bod ar y ffordd i Wlad Groeg.”

Mae’r safle wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer ymosodiadau o’r awyr ar dargedau’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Irac.

Mae llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker wedi galw am uwch-gynhadledd arbennig ar gyfer arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd a’r Balcanau ym Mrwsel ar 25 Hydref i drafod yr argyfwng ffoaduriaid.