Daniel Craig
Mae rhai o ffans mwyaf ffilmiau James Bond wedi cael y cyfle i weld ei anturiaethau diweddaraf wrth i Spectre gael ei gweld am y tro cyntaf neithiwr.

Cafodd cannoedd o bobl yn ogystal â rhai o’r cyfryngau gyfle i weld y ffilm ddiweddaraf, y 24ain yng nghyfres Bond, yn sinema’r Odeon Leicester Square yn Llundain.

Mae Spectre, pedwaredd ffilm Daniel Craig yn y rôl, yn dod â chymeriad James Bond benben ag un o’i brif elynion Franz Oberhauser, sydd yn cael ei chwarae gan Christoph Waltz.

Cafodd y ffilm tipyn o sylw yng Nghymru yn gynharach eleni wedi iddi ddod i’r amlwg bod y Cynulliad wedi gwrthod â chaniatáu i griw James Bond saethu rhan o’r ffilm yn Siambr y Senedd.

Ymateb cymysglyd

Mae ffilm Spectre yn dechrau mewn gŵyl Dia de Muertos (Dydd y Meirw) ym Mecsico, ac mae’n debyg bod digon o’r ddeialog ffraeth a golygfeydd cyffrous sydd yn nodweddiadol o ffilmiau James Bond.

Cymysglyd fu’r ymateb yn y cyfryngau wrth iddyn nhw ei gweld am y tro cyntaf, fodd bynnag, gyda Damon Smith o PA yn dweud nad oedd wedi cyffroi cymaint â’r disgwyl.

Yn ôl Darryl Smith o’r Sunday Post roedd y ffilm ychydig yn ddifflach, gyda Melissa Nathoo o ITN yn dweud ei fod wedi “dechrau’n dda” ond yna methu â chynnal y cyffro.

Ond roedd adolygwyr sawl papur newydd gan gynnwys The Sun, The Daily Mirror, The Times, The Telegraph a’r Daily Mail yn llawn canmoliaeth i’r ffilm.

Dywedodd Peter Bradshaw o’r Guardian ei fod yn “hynod o gyffrous ac ysblennydd”, gyda Geoffrey Macnab o’r Independent yn dweud mai’r unig siom oedd y diweddglo “trwsgl a sentimental”.

Ffilm olaf Daniel Craig?

Yn ogystal â Daniel Craig a Christoph Waltz mae cast arferol y ffilm yn dychwelyd gan gynnwys Ben Wishaw (Q), Naomie Harris (Moneypenny), Ralph Fiennes (M) a Rory Kinnear (Tanner).

Fe fydd Spectre hefyd yn gweld Andrew Scott a Dave Bautista, yn ogystal â’r merched Bond Lea Seydoux, Monica Bellucci a Stephanie Sigman, yn chwarae rhannau.

Y ffilm Bond diwethaf, Skyfall, oedd yr un wnaeth y mwyaf o arian erioed yn hanes y gyfres pan gafodd ei rhyddhau yn 2012.

Mae’n bosib fodd bynnag mai Spectre fydd y tro olaf i Daniel Craig a’r cyfarwyddwr Sam Mendes weithio â’i gilydd ar y gyfres 007, gan fod y ddau wedi awgrymu mai hon fydd eu ffilm Bond olaf.