Mae adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi gan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) yn rhybuddio dros dorri cyllid S4C ymhellach, os nad yw’r cyhoedd am weld y sianel genedlaethol Gymraeg yn dirywio.
Mae’r adroddiad sy’n cynnwys cyfres o argymhellion i gryfhau’r cyfryngau yng Nghymru yn rhan o “Archwiliad i’r Cyfryngau” yr IWA.
Daw’r adroddiad wedi i adolygiad gan y sefydliad gael ei gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf oedd yn dweud bod y cynnwys am Gymru yn y cyfryngau wedi “gostwng yn sylweddol.”
Yn ôl yr IWA, mae’r BBC yn gwario 25% yn llai ar raglenni i Gymru yn Saesneg o’i gymharu â 10 mlynedd yn ôl, ac mae S4C wedi cael toriad o 24% yn ei chyllid canolog.
£67 miliwn oedd S4C wedi gwario ar raglenni yn 2013 o gymharu â £87 miliwn yn 2009.
Ac er i wasanaeth ITV yn yr Alban, STV gynyddu ei allbwn ar y teledu, mae ITV Cymru wedi ei leihau, gan ddangos 90 munud yn unig o raglenni Saesneg am Gymru yr wythnos, yn ogystal â’i allbwn newyddion.
Mae’r cyfryngau traddodiadol hefyd yn dioddef, gyda chylchrediad papurau newyddion yng Nghymru yn gostwng yn sylweddol.
Ac yn ôl yr IWA, ar gyfnod o newid yng Nghymru, gyda mwy o ddatganoli pwerau, mae’r gallu i adlewyrchu a chwestiynu’r newidiadau hyn wedi “gostwng yn sylweddol ac yn wynebu rhagor o bwysau.”
Yr argymhellion
Mae’r IWA wedi llunio cyfres o argymhellion er mwyn sicrhau bod y cyfryngau yng Nghymru’n gallu gwneud y canlynol:
- bod yn sianel dwy ffordd o wybodaeth gyson, cysylltu’r llywodraeth, y gymdeithas sifil a dinasyddion.
- adlewyrchu’r gymdeithas honno yn llawn i’w hun – ei hamrywiaeth a’i chreadigrwydd, ei chyflawniadau a’i methiannau, ei hieithoedd a’i chelfyddydau, ei gogoniannau a’i gwendidau.
- galluogi Cymru i’w chynrychioli ei hun i weddill y Deyrnas Unedig.
Mae wedi galw am sefydlu Panel Ymgynghorol ar y Cyfryngau yng Nghymru o dan arweinyddiaeth cadeirydd annibynnol.
Mae hefyd wedi dweud bod angen cynnal cyllid S4C, gan ddweud bod hi’n ddyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, John Whittingale i wneud hynny.
Ac mae’r sefydliad wedi galw am ddiogelu annibyniaeth olygyddol, weithredol a rheolaethol y sianel.
Fe alwodd am fwy o gydweithio rhwng S4C a BBC Cymru, heb fod y ddau wasanaeth yn colli ei “arwahanrwydd.”
Fe adroddodd hefyd fod S4C wedi cynyddu ei chynulleidfa ar-lein ers cyrraedd BBC iPlayer, lle bu cynnydd o 30% o bobl yn gwylio rhaglenni’r sianel ar y gwasanaeth rhwng 2014 a 2015.
A dywedodd fod angen i’r sianel ail-ddechrau ei wasanaeth ar gyfer teledu Clirlun (HD) ac y dylai John Whittingale ystyried hyn pan yn “sicrhau cyllid digonol” i’r sianel.
Bydd rhai o arweinwyr y sector cyfryngau yn craffu ar yr argymhellion a’r sylwadau sydd yn yr adroddiad ac yn eu trafod yn Uwch-gynhadledd y Cyfryngau yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd ar 11 Tachwedd.